500 yn rali Pont Trefechan, 50 mlynedd yn ddiweddarach

Daeth 500 ynghyd heddiw (Dydd Sadwrn, 2 Chwefror) er mwyn ail-greu protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith a mynnu byw yn Gymraeg 50 mlynedd i’r diwrnod ers gwrthdystiad cyntaf y mudiad iaith.

Fe wnaeth Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith arwain protestwyr i eistedd ar y bont fel yn y gwrthdystiad gwreiddiol gan ddweud:

“Fyddwn i ddim yn hoffi meddwl beth fyddai wedi digwydd i'r Gymraeg pe na bai protestwyr wedi bod yn barod i wneud safiad, i dorri'r gyfraith a chymryd cyfrifoldeb dros yr hanner can mlynedd diwethaf. Mae'n rhaid i ni ddal i weithredu heddiw er mwyn sicrhau mai iaith gymunedol fyw fydd y Gymraeg, ac nid iaith symbolaidd ar gyfer lleiafrif.”

Ar Chwefror 2 1963, daeth protestwyr Cymraeg eu hiaith a rhai di-Gymraeg i weithredu i gael ‘statws swyddogol’ i’r Gymraeg, wrth osod posteri dros swyddfa’r post a meddiannu Pont Trefechan ar gyrion Aberystwyth. 50 mlynedd yn ddiweddarach, gorymdeithiodd nifer o gyn-gadeiryddion y Gymdeithas a’r protestwyr gwreiddiol i bont Trefechan mewn ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad.


 

Yn siarad wedi’r rali ychwanegodd Mr Farrar:

“Mae’n bwysig nodi fod rhai o sylfaenwyr a phrotestwyr gwreiddiol y bont wedi dod i’r rali heddiw, sydd yn digwydd ddyddiau yn unig cyn i ni fel mudiad gyfarfod gyda Carwyn Jones a’n bod i gyd wedi dod ynghyd er mwyn rhoi pwysau arno i gydnabod yr argyfwng, a gweithredu er mwyn sicrhau bod dyfodol cynaliadwy i’r iaith. Dim ond y cam cyntaf yn ein hymgrych yw’r raliau hyn. Rydym wrthi’n cynnal gweithdai a chyfarfodydd er mwyn trafod yr ymgyrchoedd yn lleol.”

Yn cynrychioli pobl ifanc Ceredigion oedd Siriol Dafis, disgybl yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth. Wrth annerch y dorf dywedodd:

“Dydy pobl ifanc ddim wastad yn gwybod ble i droi i leisio barn a dydyn nhw ddim yn gwybod sut i ymgyrch, newid pethau a gwneud gwahaniaeth.”

“ Ond mae pobl ifanc yn becso am y Gymraeg ac fe ydyn ni yn dymuno byw yn Gymraeg a gobeithio bod yr holl bobl ifanc yma heddiw yn mynd i ddangos bod yr iaith Gymraeg yn fyw.”

Fe ddaeth y rali ddyddiau’n unig ar ôl i ystadegau’r Cyfrifiad gael eu rhyddhau gan ddangos cwymp yn y nifer y cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith i’r mwyafrif. Bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â Carwyn Jones AC ddydd Mercher y 6ed o Chwefror.

Mwy o luniau or digwyddiad - http://cymdeithas.org/lluniau/ponttrefechan