8000 o dai newydd: Cyfarfod cyhoeddus ym Mhenygroes

Wrth i 'ymgynghoriad' Cyngor Gwynedd ar y cynllun datblygu barhau, bydd ymgyrchwyr yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Nyffryn Nantlle ddydd Iau yma (19 Mawrth) i ddangos sut mae mynd ati o ddifri i gael barn pobl leol.

Mae nifer o feirniadaethau o'r ffordd mae'r cyngor wedi mynd ati i ymgynghori ar y cynllun, sy'n amlinellu cynlluniau i adeiladu oddeutu 8,000 o dai newydd yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder nad yw'r cyhoedd wedi cael gwybod am y sesiynau ac os yw pobl yn digwydd dod i'r sesiynau, nid oes swyddog o'r cyngor ar gael i siarad â hwy, mae'r dogfennau yn drwchus, ac ni chaniateir mynd â hwy adref, mae'r gost o'u prynu yn hurt, a dyw'r ffurflen adborth ddim yn berthnasol.

Yr ydym yn rhoi cynnig ar ffordd arall” meddai Ben Gregory, un o'r siaradwyr yn y cyfarfod, “gwahodd pobl i gyfarfod cyhoeddus, rhoi'r ffeithiau iddynt, a gwrando ar eu barn.

Caiff y farn hon ei throsglwyddo i Gyngor Gwynedd, a'u penderfyniad hwy wedyn yw ei hystyried neu beidio.”

'A oes angen 152 o dai newydd yn yr ardal?' yw'r cwestiwn ar y poster, a chaiff y cyfarfod ei gynnal am 7.30pm yn y Neuadd Goffa ym Mhengroes ar nos Iau, Mawrth 19.

Y siaradwyr eraill yw Gwion Owain o Benygroes a Menna Machreth o Gaernarfon, sy'n gadeirydd ar Gymdeithas yr Iaith yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Estynnir gwahoddiad cynnes i rywun o Gyngor Gwynedd i ddod, iddynt gael gweld beth yw'r farn yn lleol.

Os bydd tystiolaeth fod angen cynifer â hyn o dai, byddwn yn derbyn hynny” meddai Menna Machreth. “Ein cwyn ni hyd yma yw nad oes ymchwil wedi bod i ganfod pwy sydd angen tai, a pha fath o dai sydd angen eu codi. Mae'r Cyngor wedi derbyn ffigwr gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd, ac maent yn mynd rhagddynt efo'r ffigwr hwnnw, heb ofyn i bobl leol beth maent hwy ei angen. Ein pryder ni yw y bydd tai di-angen yn effeithio ar sefyllfa'r iaith Gymraeg, sydd yn ddigon bregus fel ag y mae. Tai fforddiadwy i bobl leol sydd ei angen, nid hap-ddatblygu.”

Mae'r Cyngor yn datgan na fydd codi tai yn effeithio ar sefyllfa'r iaith Gymraeg yn y sir. Bu beirniadaeth flwyddyn yn ôl gan y Cyn-Ddeilydd Portffolio Tai a Chynllunio pan ddywedodd fod yr holl fater yn 'risg' ond ei bod yn 'risg werth ei chymryd'