Achos llys dros hawliau i'r Gymraeg

achos-jamie-bach.jpgBydd ymgyrchydd iaith yn mynd o flaen y llys heddiw (Dydd Mercher, 9fed Chwefror) ar ôl iddo chwistrellu'r gair "Hawliau" ar adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch am ddeddfwriaeth iaith gyflawn.Ar yr un dydd â'r achos, fe fydd y mudiad iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn lansio ymgyrch newydd o'r enw "Hawliau i'r Gymraeg". Cefnogwyd gwelliant aflwyddiannus gan 18 Aelodau Cynulliad i Fesur Iaith a fyddai wedi golygu hawliau cyffredinol i'r iaith Gymraeg, sef rhagdybiaeth gyfreithiol y gallai unigolion dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg.Fe basiwyd y Mesur Iaith Gymraeg ym Mis Rhagfyr y llynedd a fydd yn sefydlu'r iaith fel un swyddogol a chreu rôl Comisiynydd Iaith.Fe fydd y diffynnydd, Jamie Bevan o Ferthyr Tudful, yn honni bod ei driniaeth diweddar gan y llysoedd yn enghraifft o broblem o'r diffyg hawliau i'r Gymraeg:"Ers y weithred rydym wedi ennill statws Swyddogol i'r Gymraeg ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi ei groesawu. Serch hynny mae hawl pobl Cymru i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd o fywyd yn dal i fod ar goll, megis mewn banc neu archfarchnad. Hyd yn oed yn y llefydd lle rydym eisoes yn disgwyl gwasanaeth Cymraeg, mae'r gwasanaeth yn dameidiog, yn anghyson, yn aml rhaid gofyn a gofyn amdano, ac weithiau nid yw'n bodoli o gwbl. Sut allwn ddisgwyl i bobol Cymru defnyddio'r Gymraeg os nad oes gennym hyder a sicrwydd bod gwasanaethau Cymraeg cyflawn lle dylent fod?""Enghraifft berffaith yw fy achos llys fy hun. Wrth geisio cysylltu â'r llys yng Nghaerdydd i drafod y manylion, fe fues i'n treulio dros hanner awr ar y ffon, yn cael fy mhasio o un person i'r nesaf, o un rhif i'r llall, dim ond i ddarganfod nad oedd neb ar gael i ddelio a'm nghais yn Gymraeg. A hynny ar ôl dewis gwasanaeth Cymraeg."Ychwanegodd Catrin Dafydd, llefarydd y gr?p Hawliau i'r Gymraeg:"Mae egwyddor graidd ar goll yn y mesur a basiwyd gan y Cynulliad cyn y Nadolig. Nid yw'n rhoi hawliau iaith i bobl Cymru. Er hyn, cefnogwyd gwelliant i'r perwyl hwnnw gan 18 Aelod Cynulliad o dair plaid wahanol, ac roedd hynny'n gam hynod arwyddocaol."Fel y saif y mesur ar hyn o bryd does dim egwyddor yn gyrru'r dyletswyddau ar rai cyrff i ddarparu gwasanaeth Cymraeg ac felly o heddiw ymlaen, fe fyddwn yn newid enw ein hymgyrch i "Hawliau i'r Gymraeg" am mai dyma'r egwyddor sydd ar goll yn y mesur. Ni fydd sicrhau statws swyddogol ar ei ben ei hun yn grymuso pobl yn eu cymunedau, a bydd diffygion y Mesur yn siwr o ddangos hynny yn y dyfodol. Mae'r gydberthynas rhwng statws a hawliau yn ddiymwad, ac mae'r grym fyddai gan hawliau i sicrhau fod y safonau'n cael eu gweithredu'n effeithiol yn gwbwl amlwg. Ein bwriad fel ymgyrchwyr yw galw am ddeddfwriaeth newydd yn y Cynulliad nesaf - deddfwriaeth a fydd yn grymuso dinasyddion drwy sicrhau hawliau i bobl weld, clywed, dysgu a defnyddio'r Gymraeg yn eu cymunedau, ledled Cymru."