Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’n frwd yr adolygiad o Gymraeg ail iaith a gyhoeddwyd heddiw, ac yn galw ar i’r Prif Weinidog fynd ati i weithredu’r holl argymhellion ar fyrder.
Daw’r adroddiad wedi i nifer o bobl adnabyddus, megis yr Aelod Cynulliad Ann Jones a seren rygbi Robin McBryde, lofnodi llythyr agored y mudiad iaith at y Prif Weinidog yn galw am symud tuag at drefn lle bydd pob disgybl yn derbyn o leiaf ran o’i addysg yn Gymraeg. Dywed yr adroddiad: “Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith. ... mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn wedi cael ei ddweud am Fathemateg, neu am y Saesneg, diau y byddem wedi cael chwyldro. Ond mae cyrhaeddiad isel mewn Cymraeg ail iaith wedi cael ei dderbyn fel y norm. Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”
Mae’r adroddiad yn argymell bod: “... elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â’r term Cymraeg ail iaith…[dylid] gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.”. Ychwanega’r adroddiad: “[y dylai Llywodraeth Cymru] dreialu cyfnodau dwys o ddysgu Cymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.”
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydan ni’n croesawu’r adroddiad a allai olygu cam mawr ymlaen. Mae angen i Carwyn Jones gymryd cyfrifoldeb am dderbyn a gweithredu’r argymhellion yn syth, gan fod y mater yma mor bwysig i gyflwr y Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod. Rydan ni’n credu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru - mae’n rhan o etifeddiaeth pawb o bob cefndir.
“Mae’n annheg mai dim ond lleiafrif o bobl ifanc sy’n cael cyfle i gael addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, a hynny trwy hap a damwain daearyddol a dewis eu rhieni. Dylen ni anelu at sicrhau bod pob plentyn yn rhugl ac yn cael byw yn Gymraeg, felly mae’r term “ail-iaith” yn anaddas erbyn hyn. Ddylai’r system ddim amddifadu pobl ifanc o’u hawl i fyw yn Gymraeg fel hyn.”
“Mae’r adroddiad yn cydnabod diffygion y system ‘Cymraeg ail iaith’ bresennol. Does dim dwywaith amdani, mae ‘Cymraeg ail iaith’ yn methu, ac mae angen chwyldroad llwyr o’r gyfundrefn addysg yng Nghymru. Gyda newidiadau dewr a sylfaenol, gall y system addysg hefyd wneud cyfraniad mwy i wrth-droi’r gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a welwyd yn y Cyfrifiad diwethaf.”
Cynhelir trafodaeth am ddileu’r cysyniad o addysg Gymraeg ail iaith yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddydd Sadwrn 5ed Hydref.
Cliciwch yma am adroddiad y grwp adolygu
Y stori yn y newyddion:
Cymraeg ail iaith: methiant yn “norm” - Golwg 360