Adroddiad Safonau Iaith: Galw am hawliau clir

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynnu bod y Llywodraeth yn gwrando ar ei galwad am hawliau clir i wasanaethau Cymraeg, yn dilyn cyhoeddi adroddiad Comisiynydd y Gymraeg am y safonau iaith heddiw.

Dywedodd y mudiad ei bod yn ‘ddamniol’ bod y Comisiynydd wedi gorfod ysgrifennu adroddiad ychwanegol yn rhoi cyngor ar ailddrafftio’r safonau oherwydd gwallau sylfaenol ynddyn nhw sy'n groes i addewidion blaenorol y Llywodraeth.

Ymatebodd cannoedd o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i’r ymchwiliad ar y dyletswyddau drafft – a fydd yn disodli cynlluniau iaith – gan alw ar y Llywodraeth i gadw at ei haddewidion:

  • i sicrhau bod y safonau yn creu hawliau clir i bobl;

  • peidio â gadael i gyrff gynnig gwasanaethau sy'n llai na chynlluniau iaith;

  • galluogi rhagor o gyrff i weithredu'n fewnol yn Gymraeg; a

  • sicrhau bod gwasanaethau sy'n cael eu contractio allan yn cael eu darparu yn yr iaith

Meddai Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwella'r safonau yn wyneb y feirniadaeth lem gennym ni ac eraill. Mae’r ffaith bod y Comisiynydd wedi gorfod ysgrifennu adroddiad ychwanegol yn ddamniol. Mae cannoedd o’n haelodau wedi pwyso ar y Llywodraeth i sicrhau bod pobl yn cael hawliau clir, yn hytrach na rheoliadau sydd ond yn hwylus i gyrff a chwmnïau.

“Mae'r rheoliadau drafft yn torri nifer o addewidion a wnaed gan y Prif Weinidog gan eu bod, fel maen nhw ar hyn o bryd, yn gadael i gyrff gynnig gwasanaethau llai na sydd lawr ar bapur mewn cynlluniau iaith a chaniatáu i wasanaethau sydd wedi eu contractio allan fod yn uniaith Saesneg. Hefyd, mae nifer o gyrff am symud at sefyllfa lle maen nhw'n gweinyddu'n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, ond dyw'r safonau ddim yn cynnig dim modd i gefnogi'r dyhead yna. Yn wir, does yr un safon sy'n mynd i sicrhau bod cyrff yn cyflogi staff gyda sgiliau iaith er mwyn darparu'r gwasanaeth yn Gymraeg.

Wrth droi at sicrhau bod cwmniau mawrion preifat yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg, ychwanegodd: "Addawodd y Llywodraeth, yn gwbl glir, yn ei strategaeth iaith y bydden nhw’n gosod safonau ar y sectorau preifat gan gynnwys cwmnïau telathrebu, ynni a phost. Felly, ble mae’r amserlen ar gyfer gosod safonau ar y cwmnïau mawrion hynny?"

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Prif Weinidog i sefydlu hawliau clir i bobl dderbyn gwasanaethau Cymraeg drwy’r safonau iaith, fel rhan o'i hymgyrch dros chwe newid polisi, a fyddai'n ymateb digonol i ganlyniadau’r Cyfrifiad ym marn y mudiad.