Adroddiad Silk yn “colli cyfle” ar ddarlledu, medd Cymdeithas

Adroddiad sy’n ‘colli cyfle’ i ateb problemau’r Gymraeg ym maes darlledu, dyna yw ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ail adroddiad Comisiwn Silk.
 
Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae hanes diweddar y toriadau i S4C a sefyllfa radio lleol yn dangos nad yw Llundain yn deall anghenion Cymru. Credwn fod datganoli darlledu yn hanfodol er mwyn cael cyfundrefn ddarlledu sy'n ateb gofynion Cymru a’r Gymraeg. Mae nifer o wleidyddion o wahanol bleidiau wedi cefnogi ein galwad i ddatganoli darlledu, felly mae’n destun dryswch bod y comisiwn wedi colli cyfle pwysig wrth ddod i gasgliad mor geidwadol. Mae’n codi cwestiynau ynghylch sut mae’r pleidiau wedi cytuno’n unfrydol ar adroddiad nad yw’n gyson â’u safbwynt.”
 
Cafwyd cefnogaeth i alwad Cymdeithas yr Iaith dros ddatganoli darlledu gan nifer o wleidyddion gan gynnwys y Democrat Rhyddfrydol Peter Black AC, Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC a’r Ceidwadwr Mohammad Asghar AC.