Adroddiad yn dangos bod angen Deddf Addysg Gymraeg i bawb

Mae adroddiad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd ar y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn dangos bod angen Bil Addysg Gymraeg sy'n rhoi'r Gymraeg i bawb.

Yn ôl Mabli Siriol Jones, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'r adroddiad yn nodi bod angen buddsoddi a chynllunio er mwyn cyrraedd targedau heriol, ac yn argymell sawl cam ymlaen sydd yn ategu nifer o alwadau'r Gymdeithas. Ond mae'n glir bod angen Ddeddf Addysg Gymraeg fydd yn sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn.
"Rydyn ni'n cytuno gyda'r pwyllgor nad yw trefn y Cynlluniau Strategol y Gymraeg yn gweithio, nid eu gwella sydd ei angen er hynny, ond cael gwared arnynt a rhoi targedau statudol i bob awdurdod lleol i gynyddu nifer y disgyblion sy'n derbyn addysg Gymraeg.
"Rydyn ni'n cytuno hefyd bod angen cynyddu nifer y staff addysg sy'n gallu siarad Cymraeg, mae argymhellion cryf fel cynllun trochi ar gyfer athrawon ond mae angen i'r Gymraeg fod yn rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon, a thargedau statudol yn y Bil i gynyddu'r gyfran o'r gweithlu sy'n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg."

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Bapur Gwyn Bil Addysg Gymraeg ar hyn o bryd.

Ychwanegodd Mabli Siriol Jones:
"Yn hytrach na gwneud mân newidiadau i system sydd ddim yn gweithio mae cyfle trwy'r Bil Addysg Gymraeg i fynd ymhellach nag argymhellion yr adroddiad yma, a thrawsnewid y system.
Byddwn ni'n ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth, ac yn annog eraill sydd am weld pob un yn gadael yr ysgol yn gallu defnyddio'r Gymraeg, i ymateb gan alw am Ddeddf Addysg fydd yn:
    • Gosod nod fod pob ysgol yn mynd ar daith at fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg erbyn 2050
    • Creu un continwwm dysgu ac asesu Cymraeg
    • Creu fframwaith cenedlaethol â thargedau statudol i bob awdurdod lleol i gyrraedd y nod"

  • Rydyn ni wedi llunio ei Deddf Addysg ei hun, sydd i'w gweld yma
  • Mae adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i'w weld yma