Aelodau yn torri ar draws dadl yn San Steffan

Mae tri aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg - Jamie Bevan, Colin Nosworthy a Bethan Williams - wedi torri ar draws trafodaeth yn Nhy'r Cyffredin ar y Mesur Cyrff Cyhoeddus fydd yn effeithio yn uniongyrchol ar ddyfodol S4C.

Wrth iddynt gael eu hebrwng allan o'r siambr dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r holl drafod sydd wedi bod ar ddyfodol S4C wedi bod yn broses annemocrataidd sydd wedi digwydd tu ôl i ddrysau caeëdig ac fe gafodd pobl Cymru eu heithrio yn gyfan gwbl o'r drafodaeth.

Yn wir mae'r holl broses yn dangos yn glir i ni fod angen datganoli y grymoedd dros ddarlledu i Gymru."Bydd Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod dydd Sadwrn nesaf yn Aberystwyth ac yno fe geir trafodaeth lawn ar sut i symud ymlaen gyda'r ymgyrch hon.