Agenda Amgen Cyngor Caerfyrddin

cyngor_sir_caerfyrddin.JPG Ar ddydd Gwener 25 Mehefin bydd Cyfarfod Cyffredinol Cyntaf y Cyngor newydd. Yno i’w croesawu fydd aelodau Cymdeithas yr Iaith i gynnig agenda amgen i’r cynghorwyr newydd i’w drafod a’i fabwysiadu.

Dau bwynt fydd ar yr agenda hwn.Y pwynt cyntaf ar yr agenda fydd y ‘Cynllun Datblygu Unedol’. Mae gan y cyngor newydd y gallu i daflu ymaith benderfyniadau’r hen gyngor a oedd yn caniatau adeiladu 12,000 o dai yn Sir Gaerfyrddin dros y pymtheg mlynedd nesaf. Cafodd y penderfyniadau hwn ei seilio ar ragdybiaethau a hwylustod i ymarferwyr proffesiynol. Rydyn ni’n galw ar i unrhyw gynllun tai fod yn gynnyrch a chanlyniad ymchwil i anghenion tai lleol.Yr ail bwynt ar yr agenda fydd y ‘Cynllun Trefniadaeth Ysgolion’. Mae’r cynllun presennol yn fygythiad i ysgolion cynradd â llai na 90 o ddisgyblion. Galwn ar i’r cynghorwyr ddiddymu’r cynllun hwn a chreu cynllun newydd a fydd yn gwarchod ac amddiffyn yr ysgolion bach, cymunedol hyn.Darllenwch mwy oddi ar wefan y Carmarthen Journal