Agorwch ddim ond ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, medd cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd

Bydd cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd yn dadlau dylid ystyried agor ysgolion newydd yn y brifddinas dim ond os ydyn nhw’n rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, mewn araith heddiw (11:30yb, dydd Sul, 1af Gorffennaf).    

Mewn sgwrs a gynhelir gan Gymdeithas yr Iaith yng ngŵyl Tafwyl yng Nghastell Caerdydd, mae disgwyl i'r Cynghorydd Llafur Phil Bale, yr oedd yn arweinydd y Cyngor Sir y llynedd ac sy’n cynrychioli ardal Llanisien y ddinas, ddweud:   

“... mae ein strategaeth newydd, er ei bod yn darparu'r seiliau cadarn, yn canolbwyntio ar gyflwyno cyfran Caerdydd o darged un filiwn Llywodraeth Cymru. Ond nid oes rheswm pam, fel prifddinas Cymru, na ddylen ni anelu at fynd ymhell y tu hwnt i hyn. 

“... mae angen i'r ddinas fod yn ddi-ofn mewn penderfyniadau ynghylch a ddylai ysgolion a adeiledir o'r newydd yng Nghaerdydd yn y dyfodol fod yn Saesneg neu'n gyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn datgan y bydd dewis iaith ysgolion newydd yn seiliedig ar gynnydd tebygol yn y boblogaeth yn y dyfodol yn ogystal â thueddiadau hanesyddol yn y galw am leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Sut bynnag, ni fydd edrych i'r gorffennol yn helpu i wireddu gweledigaeth ein dinas ar gyfer y dyfodol. Os bydd Caerdydd o ddifrif ynghylch lleihau nifer sylweddol y disgyblion sy'n gadael ysgolion cyfrwng Saesneg Caerdydd heb fawr ddim sgiliau yn y Gymraeg, yna mae angen ystyried yn ofalus unwaith eto'r polisi o agor ond naill ai ysgolion dwyieithog neu ysgol cyfrwng Cymraeg.” 

Wrth siarad am sut y dylid defnyddio’r system gynllunio i gryfhau’r Gymraeg, meddai’r Cynghorydd Bale bod angen I'r Cyngor sicrhau bod pob siop yn cynyddu statws a defnydd yr iaith: 

Mewn rhai rhannau o Gymru, mae polisïau cynllunio wedi bod yn ganolog o ran helpu i ddiogelu'r iaith, yn ninasoedd Cymru – yr hen derminoleg gynllunio sy'n cyfeirio at ardaloedd lle y dylai'r Gymraeg fod yn rhan o 'wead cymdeithasol ' cymunedau, wedi gwneud hyn yn anoddach. Fel canlyniad, nid yw'r Gymraeg wedi cael ei thrin fel ffactor perthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a sut y gallent gefnogi dinas ddwyieithog, naill ai'n uniongyrchol drwy arwyddion neu enwau strydoedd – neu'n anuniongyrchol drwy'r taliadau budd cymunedol Adran 106. 

“[mae’r] Cyngor yn bwriadu cyflwyno Canllawiau Cynllunio Ategol diwygiedig ar gyfer Arwyddion a Blaen Siopau yn hwyrach eleni, gan nodi'n llawer cliriach beth yw disgwyliadau'r ddinas o ran arwyddion siopau dwyieithog. Ni all fod yn iawn fod cwmnïau Almaeneg fel Lidl ac Aldi wedi cofleidio ein hiaith yn eu siopau Cymreig eu hunain tra bod llawer o gwmnïau Cymreig neu Seisnig yn dal i fod heb wneud. Yng ngoleuni'r ansicrwydd presennol ynghylch sut bydd y sector preifat yn cydymffurfio â’r safonau iaith, mae'n iawn i'r Cyngor achub y blaen yng Nghaerdydd, lle y gall wneud hynny a bydd yr ymgynghoriad yn gyfle i gyflwyno’ch barn ar y newid hwn. 

Wrth ymateb i'r sylwadau, meddai Mabli Jones ar ran Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith: 

“Rydyn ni’n croesawu’r sylwadau’n fawr iawn. Mae Phil Bale yn frwd iawn tuag at yr iaith ac yn gynghorydd hynod brofiadol gyda phrofiad uniongyrchol o reoli’r ddinas. Mae hyn yn hwb mawr i'n hymgyrch i agor 10 ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn y pedair blynedd nesaf, ac rydyn ni’n credu y dylai ysgolion newydd fod yn rhai cyfrwng Cymraeg yn unig. Rydyn ni wedi cwrdd â’r cyngor sawl gwaith yn ddiweddar i drafod materion addysg a chynllunio, ac mae Phil Bale yn hollol iawn i ddweud y dylai pob siop a busnes fod ag arwyddion Cymraeg. Mae’n agenda cyffrous.”