Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi derbyn cwyn yn ymwneud ag agwedd negyddol siop Blacks ym Metws-y-Coed tuag at yr iaith Gymraeg. Ar ddydd Gwener 24/03/06 fe aeth Dilwyn Llwyd o Gaernarfon a'i bartner i'r siop gyda ymholiad. Cafodd Mr Llwyd ymateb hiliol ac amharchus gan yr aelod o staff.
Dywedodd ei fod wedi bod yn eithriadol o sarhaus tuag ati oherwydd iddo ddechrau'r sgwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, a honodd nad oedd hawl ganddo i siarad Cymraeg gyda hi. Dywedodd Dilwyn Llwyd:"Roedd agwedd y siop tuag at yr iaith Gymraeg yn warthus. Mae meddylfryd fel hyn yn rhywbeth a ddylai fod yn y llyfrau hanes ac nid tu ôl i gownter siop"Mae hyn yn brawf unwaith eto o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd. Dros yr wythnosau diwethaf cysylltodd Cymdeithas yr iaith â siopau a busnesau ledled y wlad, gyda'r mwyafrif yn nodi nad ydynt yn cynnig gwasanaeth Cymraeg gan nad oes cyfraith yn mynnu hynny. Dywedodd Dewi Snelson, Swyddog Cymdeithas yr Iaith yn y Gogledd:"Mae'r sefyllfa yn Blacks yn warthus. Dylai fod gan bobl Cymru yr hawl i dderbyn gwasanaeth, gwybodaeth, cyfleusterau a nwyddau yn Gymraeg. Dyma esiampl cryf am yr angen am ddeddfwriaeth gadarnach ym maes yr iaith. Ni allwn ddibynnu ar fympwy cwmnïau cyfalafol i ddarparu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n hawl sylfaenol.""Galwn ar Rhodri Morgan a Llywodraeth y Cynulliad i fynd i'r afael â'r angen hwn a gofynwn unwaith yn rhagor am drafodaeth ar yr angen am ddeddfwriaeth. Rydym hefyd yn galw ar y cwmni a'r aelod o staff i ymddiheuro yn bersonol i Mr Llwyd, ymddiheuriad ar bapur i Gymdeithas yr Iaith a chyfarfod gyda ni er mwyn sicrhau na fydd yn digwydd eto."Assistant told me off... for using Welsh Daily Post, 31/03/06