‘Ail-frandio’ Cymraeg ail iaith yn ‘methu cenhedlaeth arall o blant’

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad Cymwysterau Cymru i beidio â chyflwyno un cymhwyster Cymraeg i holl ddisgyblion Cymru, ac wedi cyhuddo’r corff o wneud dim mwy nag ‘ail-frandio’ Cymraeg ail iaith a ‘methu cenhedlaeth arall o blant’.

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi:

  • Bydd Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn cael eu cyfuno'n un TGAU ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
  • Bydd TGAU Cymraeg Ail Iaith yn dod i ben, a bydd TGAU Cymraeg newydd yn cael ei greu ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg.
  • Cymhwyster ychwanegol newydd i ddisgyblion mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg sy'n barod i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.

Nid yw’r corff wedi esbonio ym mha ffordd fydd y ‘TGAU Cymraeg newydd’ yn wahanol i Gymraeg ail iaith, heblaw y bydd enw gwahanol arno. Bydd y newidiadau mewn lle yn 2025, ac er bod y corff yn dweud mai’r nod yw cyflwyno un cymhwyster yn y dyfodol, nid oes amserlen na chynllun ar gyfer gwneud hynny.

Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Mae Cymwysterau Cymru yn cydnabod erbyn hyn mai un cymhwyster Cymraeg yw’r ffordd ymlaen, ac yn dweud mai’r nod fydd datblygu’r cymhwyster hwnnw yn y dyfodol. Ond bydd y camau newydd yma ddim mewn lle nes 2025 a does dim cynllun nac amserlen ar gyfer cyflwyno un cymhwyster. Gan fod pawb erbyn hyn yn derbyn yr achos addysgol dros gyflwyno un cymhwyster, sut allwn ni gyfiawnhau parhau i roi nenfwd ar gyrhaeddiad mwyafrif o ddisgyblion, a’u hamddifadu o’r Gymraeg?"

Yn 2013, cyhoeddwyd adolygiad o Gymraeg ail iaith gan arbenigwyr a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, Un iaith i bawb: Adolygiad o Gymraeg ail-iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, oedd yn argymell dileu Cymraeg ail iaith a chreu un continwwm dysgu ac asesu fel mater o frys.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi a rhannu cynigion a luniwyd gan arbenigwyr ar sut i gyflwyno un cymhwyster Cymraeg. Mewn llythyr diweddar at y Llywodraeth a Chymwysterau Cymru, mae’r mudiad yn argymell bod pob disgybl yn sefyll papur arholiad cyffredinol a naill ai bapur arholiad Cymraeg Uwch neu bapur arholiad Cymraeg safonol. Byddai gorgyffwrdd rhwng y ddau bapur yma a chyfle felly i ddisgyblion uwch eu gallu, ond sy’n sefyll arholiad ‘Cymraeg safonol,’ gyrraedd e.e. gradd B ‘Cymraeg Uwch’ a chael cydnabyddiaeth am hynny.

Ychwanegodd Toni Schiavone:
"Trwy ail-frandio Cymraeg ail iaith yn lle datblygu un cymhwyster Cymraeg ar gyfer holl bobl ifanc Cymru, mae Cymwysterau Cymru a’r Llywodraeth wedi methu cenhedlaeth arall o blant. Dyma barhau â threfn system addysg sy’n amddifadu 80% o’n pobl ifanc o’r Gymraeg.
"Bron i ddegawd ers i adroddiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth ddweud bod angen cael gwared ar Gymraeg ail iaith fel mater o frys, mae’n gywilyddus ein bod ni yn y sefyllfa yma.

"Mae strategaeth y Llywodraeth ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr yn dibynnu ar sicrhau bod hanner y disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg. Ond trwy barhau â chymwysterau ar wahân, nid oes cymhelliant ar ysgolion i wella’r ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu. Yr unig ffordd i godi disgwyliadau addysgol a gwella cyrhaeddiad pob disgybl ydy cyflwyno un cymhwyster. Oni bai ein bod ni’n gwneud hynny, ni fyddwn yn cyrraedd y miliwn a bydd mwyafrif o bobl ifanc Cymru yn parhau i gael eu hamddifadu o’r Gymraeg.’