Mae Alun Pugh, y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros Ddiwylliant a'r Iaith Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cydnabod am y tro gyntaf na fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n llawn rhai o nodau sylfaenol eu dogfennau polisi, "Dyfodol Dwyieithog" a "Iaith Pawb".
Yn "Dyfodol Dwyieithog" (Gorffennaf 2002) dywed y Llywodraeth yn glir:"Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i roi'r gallu i unigolion ddewis trwy gyfrwng pa iaith neu ieithoedd y dymunant fyw eu bywydau."Wedyn, yng nghynllun gweithredu'r Llywodraeth, "Iaith Pawb" (Mawrth 2003), datgenir:"Rydym am i Gymru fod yn genedl wirioneddol ddwyieithog, sef gwlad lle gall pobl ddewis byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg."Mewn cyfarfod rhwng dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Alun Pugh am 11.30 heddiw, heriwyd y Gweinidog i esbonio sut gellid cyrraedd y nodau canmoladwy hyn heb gyflwyno Deddf Iaith Newydd, i orfodi cwmnÔau yn y sector breifat i gyflwyno gwasanaeth Cymraeg gyflawn. Bu Cymdeithas yr Iaith yn galw am ddeddf o'r fath ers pasio'r ddeddf iaith ddi-ddannedd presennol ym 1993.Wrth ymateb, cydnabu Alun Pugh nad oedd unrhyw amserlen penodol gan y Llywodraeth i weithredu ar eu haddewidion, ac na fyddai modd perswadio pob cwmni preifat i ddefnyddio'r Gymraeg sy'n golygu bod yr addewid o Gymru lle gall "unigolion ddewis trwy gyfrwng pa iaith neu ieithoedd y dymunant fyw eu bywydau" yn addewid ffals.Gwrthododd y Gweinidog ystyried camau cadarn, deddfwriaethol, i gyrraedd ei nod yn hytrach, bwriad y Llywodraeth yw parhau i "annog" a "hyrwyddo" defnydd o'r Gymraeg yn y sector preifat. Dyma bolisi a gyflwynwyd gan y TorÔaid ym 1993, ac sydd wedi profi yn gyfangwbl aneffeithiol ers hynny.Dywedodd Huw Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ar Ùl bod yn y cyfarfod:"Mae'n amlwg mai siarad gwag yw pob addewid gan y Blaid Lafur ar fater yr iaith. Yn y ddadl San Steffan ar Ddeddf Iaith 1993, dywedodd Rhodri Morgan y byddai Llafur yn cyflwyno Deddf Iaith Newydd pan fyddant mewn grym. Aeth yn Ùl ar ei air. Nawr dyma Gweinidog Llafur yn cyfaddef na fydd yn gweithredu'n llawn addewid a rhoddwyd ond ychydig fisoedd yn Ùl. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn parhau i bwyso ar y Llywodraeth i gyflwyno Deddf Iaith a fydd yn cynnig hawliau llawn i siaradwyr Cymraeg."