Amserlen Safonau Iaith - ble mae'r sector preifat?

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i ddatganiad Leighton Andrews am yr amserlen ar gyfer datblygu safonau iaith.

Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“4 blynedd ers y bleidlais olaf yn y Cynulliad, wedi 5 ymgynghoriad, a 6 blynedd ers dechrau’r broses ddeddfu, bydd posibiliad o gael gwasanaethau Cymraeg gwell. Dyna’r cyhoeddiad heddiw. Erbyn hynny, heb amheuaeth, bydd pobl yn haeddu'r hyn sy’n wirioneddol bwysig, sef hawliau, ar lawr gwlad, i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Addawodd y Llywodraeth, yn gwbl glir, yn ei strategaeth iaith y byddan nhw’n gosod safonau ar y sectorau preifat a gwirfoddol yn ogystal â’r sector gyhoeddus. Felly, ble mae’r amserlen ar gyfer gosod safonau ar gwmniau preifat a chyrff eraill? A fydd rhaid i bobl aros hyd yn oed mwy o amser?

“Yn ein cyfarfod diweddar gyda’r Gweinidog, pwysleision ni fod angen yr hawl i weithgareddau hamdden fel gwersi nofio i blant yn y Gymraeg, yr hawl i weithwyr ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a'r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith. Gallai safonau o'r fath, sy'n hawliau clir i bobl Cymru, helpu'r Llywodraeth yn fawr i gyflawni amcanion eu strategaeth iaith."

"Rydyn ni’n falch iawn bod y Gweinidog wedi cytuno i ystyried yr holl bwyntiau hyn, ac felly gobeithiwn yn fawr y gallwn ymddiried ynddo i gyflawni dros bobl Cymru. Yn ei ddwylo ef mae un o'r penderfyniadau pwysicaf - penderfyniad a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y pymtheg mlynedd nesaf a mwy."

Ychwanegodd: “Mae gwir angen ehangu sgôp y Mesur er mwyn cynnwys yr holl sector preifat. Mae’n profiad diweddar ni gyda Marks and Spencers yn dangos y cawn addewidion gan gwmniau mewn cyfarfodydd, ond does dim sicrhad y byddan nhw’n cadw at yr addewidion hynny heb ddyletswydd statudol.”

Daw’r cyhoeddiad wythnosau cyn i’r Gymdeithas lansio ymgyrch newydd dros hawliau i fyw yn Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd.