Angen i Julie James AS "wireddu ei rhethreg" trwy gyflwyno Deddf Eiddo

Yn sgil datganiad syfrdanol gan Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros dai, nad yw marchnad tai y Deyrnas Unedig yn gweithio a bod trin eiddo fel buddsoddiad yn “wallgof”, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw arni i “wireddu ei rhethreg” trwy gyflwyno Deddf Eiddo.

Yn ei datganiad yn Siambr y Senedd ddydd Mawrth (12 Mawrth) ar ail dai a fforddiadwyedd, cyfeiriodd Julie James at effaith y farchnad dai agored yn ei phentref ei hun, gan rybuddio na fyddai ei phlant yn gallu fforddio byw ynddo ac y byddai yn fuan iawn yn troi yn ‘ghost town’.

Wrth drafod yr argyfwng tai a’r ymyraethau yn y farchnad dai agored sydd wedi cael eu gweithredu yn barod, dywedodd y Gweinidog:

"This is about trying to engineer backwards a sustainable community that's been driven away by an unfettered investment market in property, because the UK has a very dysfunctional property market; we regard our homes as investments, which is mad, really. And it drives a set of behaviours that are not conducive to sustainable economies.”

Dywedodd hefyd bod pob awdurdod lleol ond dau wedi cyflwyno neu am gyflwyno premiymau treth cyngor ar ail dai, llety gwyliau neu dai gweigion, a bod cynlluniau sawl awdurdod cynllunio i gyflwyno polisi Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn "groundbreaking.”

Mewn ymateb, dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Gymdeithas yr Iaith:

“Mae’n amlwg o rethreg y Gweinidog ei bod yn deall gwraidd yr argyfwng tai sy’n gwynebu ein cymunedau, sef marchnad dai sydd heb ei reoleiddio. Mae ganddi hefyd brofiad uniongyrchol o’i effeithiau niweidiol.

“Y ffordd o ddatrys hyn a sicrhau bod tai yn cael eu trin yn bennaf fel cartrefi a bod pobl yn gallu parhau i fyw yn eu cymunedau yw trawsnewid y farchnad tai trwy ddeddfwriaeth – Deddf Eiddo. Nid oes rhaid i Gymru ddilyn yr un trywydd â gweddill y Deyrnas Unedig, sydd yn amlwg ddim yn gweithio. Dyma pam rydym yn galw ar y Gweinidog, neu ei holynydd, i wireddu ei rhethreg a chyflwyno Deddf Eiddo fyddai’n mynd at wraidd yr argyfwng tai y mae hi wedi ei hadnabod.”

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ar Fai 4. Bydd gwahoddiad i bawb sy’n bresennol i arwyddo datganiad “Ddeddf Eiddo - Dim Llai”.

Ychwanegodd Jeff Smith:

“Mae’r Llywodraeth yn gweld ac yn deall y broblem, ond er mwyn sicrhau gweithredu galwn ar bobl o bob rhan o Gymru i ddod i Flaenau Ffestiniog i godi eu llais dros ein cymunedau a galw am ddim llai na Deddf Eiddo.”