Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhyddhau cynnwys llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, sydd yn anwybyddu galwad y Gymdeithas am Ddeddf Eiddo i reoli'r farchnad dai.
Ar ran y Gymdeithas dywed Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
"Daeth dros fil o bobl i rali "Nid yw Cymru ar Werth" a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith yng Nghaernarfon bythefnos yn ôl. Fe wnaethon ni eu hannog i ddanfon neges at y Gweinidog yn galw am Ddeddf Eiddo i reoleiddio'r farchnad ac wedi derbyn llythyr yn ôl i ymateb i'r holl bobl hynny - llythyr sy'n anwybyddu'n llwyr yr alwad canolog am Ddeddf Eiddo."
Danfonodd y rhai oedd yn y rali neges at y Gweinidog yn dweud:
Datganaf fy ymrwymiad i ddyfodol ein cymunedau lleol.
Galwaf ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo i reoli'r farchnad dai i sicrhau eu dyfodol
Ychwanegodd Jeff Smith:
"Yn ei llythyr aton ni dywed y Gweinidog ei bod yn barod i wrando, ond mae'n amlwg nad yw'n clywed y galwad am Ddeddf Eiddo. Mae'n cyfeirio'n ôl at y camau pwysig a gymerodd y Llywodraeth i reoli gormodedd ail gartrefi a llety gwyliau, ac yn cyfeirio at fwriad i ystyried camau i wella amodau tenantiaid preifat. Mae'r rhain oll yn bwysig, ond gwraidd y broblem yw'r ffaith na all ein pobl gystadlu ar farchnad agored i brynu na rhentu tai fel cartrefi yn eu cymunedau ac yn cael eu gorfodi allan.
"Ni fydd trefniadau gwirfoddol yn ateb y broblem. Mae angen Deddf Eiddo i reoli'r farchnad a blaenoriaethu pobl leol. Mae'r Llywodraeth yn anwybyddu'r galwad hwn yn llwyr, felly rydyn ni'n datgan ein bwriad i drefnu ymgyrch egnïol i sicrhau fod Deddf Eiddo yn cael ei chyflwyno yn ystod y tymor seneddol hwn, fydd yn cynnwys rali ar faes Eisteddfod Pen Llŷn, ardal â phroblemau tai amlwg iawn. Galwn i bobl o gymunedau ar draws i ymuno gyda ni yn yr ymgyrch honno."