Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gymunedau sydd mewn peryg o golli eu hysgolion i "ddal eu tir" gan ddweud y gall gwaredigaeth ddod o gyfeiriad annisgwyl.
O ganlyniad i gynlluniau a gyhoeddwyd ddoe gan y Llywodraeth am gytundeb "amlinellol" i ddatblygu ac adeiladu ysgolion newydd, mae nifer o gymunedau gwledig Cymraeg yn ofni y caiff eu hysgolion nhwythau eu haberthu. Yng Ngheredigion, mae bygythiad i gau pob un ysgol gynradd o fewn 8 milltir i Landysul. Yng Ngwynedd, mae bygythiad i ysgolion yn Y Parc, Llanfachreth a Rhydymain. Yn Sir Gaerfyrddin y mae bygythiad i ysgolion Llansadwrn a Llanwrda ymhlith eraill.
Mewn neges a ddanfonir at rieni yn yr ysgolion hyn, mae Angharad Clwyd ar ran Cymdeithas yr Iaith yn eu hannog i ddal eu tir. Dywed
"Y berygl fwyaf yw y gall rhieni a chymunedau lleol brofi dadrith llwyr yn yr holl broses gan gredu na bydd eu llais a'u dymuniadau fyth yn cael eu derbyn. Gallai rhywrai o ganlyniad "dderbyn yr anochel" a dechrau symud eu plant at ysgolion canolog gan beri fod "ysgolion yn cau eu hunain" fel y mae swyddogion yn hoffi dweud. Gallai rhieni gredu nad oes unrhyw blaid ar ol i'w cynrychioli yn yr etholiadau yn y Wanwyn."
Ond fe ychwanega Ms Clwyd
"Mewn gwirionedd, fe all yr ysgolion sy'n dal eu tir lwyddo o hyd oherwydd y gall gwaredigaeth ddod o gyfeiriad annisgwyl. Mae'r llywodraeth wedi rhoi cytundeb "amlinellol" yn unig ar gyfer y datblygiadau newydd a bydd y gyllid yn ddibynnol ar allu Awdurdodau Lleol i ffurfio cynlluniau busnes call a chael hyd i 50% o'r gost eu hunain. Byddwn yn cysylltu ag arweinwyr y cynghorau i bwyntio allan mai opsiwn gwell o lawer i drethdalwyr fydd iddynt gydweithio gyda chymunedau mewn nifer o achosion i gael datblygiadau llai o faint gan ddefnyddio nifer o'r safleoedd presennol mewn ysgolion aml-safle. Mae'n bosibl iawn y cawn ni gefnogaeth gan Swyddogion Cyllid y cynghorau ac fe all hynny achub nifer o'r ysgolion sy'n dal yn gadarn,"