'Anwybyddwch ein canllawiau cynllunio’ - cyfaddefiad Llywodraeth Cymru

Gall cynghorau anwybyddu canllawiau cynllunio sy’n dweud wrthynt am beidio asesu effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg, yn ôl datganiad cyfreithiol Llywodraeth Cymru sydd wedi ei ddatgelu heddiw (dydd Gwener, 21ain Rhagfyr).  

Yn 2015, pasiwyd Deddf Cynllunio (Cymru) a sefydlodd am y tro cyntaf bod y Gymraeg yn ystyriaeth statudol yn y gyfundrefn gynllunio. Mae'r gyfraith yn galluogi cynghorwyr i wrthod neu i ganiatáu datblygiadau ar sail eu heffaith iaith ym mhob rhan o Gymru. Fodd bynnag, y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau cynllunio ynghylch sut i ymdrin â'r Gymraeg yn y broses gynllunio, sef Nodyn Cyngor Technegol 20. Mae'r canllawiau hynny'n dweud nad oes modd i gynghorwyr ofyn am asesiad o effaith iaith datblygiad oni bai ei fod yn ddatblygiad 'mawr', 'ar safle ar hap' ac o fewn ardal sy'n cael ei diffinio fel un 'arwyddocaol' yn ieithyddol. 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynnu y dylai’r Llywodraeth newid y canllawiau sy'n groes i'r Ddeddf a basiwyd yn 2015 gan eu bod yn dweud wrth gynghorwyr am beidio cynnal asesiadau effaith iaith. Mae’r Gymdeithas wedi anfon llythyr cyfreithiol at y Llywodraeth yn herio’r canllawiau cynllunio. Mewn ymateb i'r llythyr hwnnw, dywed cyfreithwyr y Llywodraeth: Nid [yw’r canllawiau] yn honni eu bod yn pennu unrhyw amgylchiadau lle y caiff neu lle na ddylai’r sawl sy’n penderfynu ystyried ystyriaethau sy’n ymwneud â defnyddio’r Gymraeg...nid yw’n paragraffau ... yn effeithio ar y ddyletswydd statudol o dan adran 70(2)(aa) i roi sylw i unrhyw ystyriaeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg, i'r graddau y maent yn berthnasol.” 

Wrth ymateb i'r newyddion, dywed cadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith, Jeff Smith: 

“Mae hyn yn dipyn o gyfaddefiad gan y Llywodraeth. Mae’n cadarnhau bod modd i awdurdodau cynllunio lleol gynnal asesiad effaith iaith ar geisiadau datblygu unigol pryd bynnag y maen nhw'n dymuno. Rydyn ni’n bwriadu parhau i herio’r polisïau cenedlaethol yma er mwyn sicrhau nad oes rhwystro ar hawliau democrataidd cynghorau i weithredu er lles y Gymraeg ym maes cynllunio.” 

“Mae'r Gymdeithas yn credu'n gryf bod y Gymraeg yn perthyn i bob rhan o'n gwlad, nid rhai ardaloedd yn unig. Ers dechrau datganoli, mae pob Llywodraeth, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, wedi pregethu a deddfu er mwyn gwneud hynny'n gwbl glir. Ond, pan ddaw hi at ganllawiau cynllunio mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod cydnabod hawl cynghorwyr i ystyried effaith iaith pob math o ddatblygiad. Er enghraifft, os nad yw ysgol Gymraeg yn rhan o stad newydd o dai, neu os nad yw tai newydd yn fforddiadwy neu’n addas i bobl leol, mae canllawiau ein Llywodraeth Genedlaethol ni ar hyn o bryd yn dweud wrth gynghorwyr am beidio ystyried yr effaith niweidiol ar y Gymraeg.  

Ychwanegodd: 

"Bwriad y Senedd wrth ddeddfu oedd sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddisgresiwn eang i ystyried unrhyw beth yn ymwneud â’r Gymraeg wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Nid bwriad Aelodau Cynulliad oedd cyfyngu ar y disgresiwn drwy ragnodi amgylchiadau penodol ar gyfer ei arfer. Fodd bynnag, yn groes i'r Ddeddf, dyna’n union mae'r canllawiau yn ei wneud, drwy ddatgan mai dim ond wrth ymateb i gais ar gyfer “datblygiad mawr” “ar safle ar hap” sydd hefyd “o fewn ardal wedi ei diffinio fel un ieithyddol sensitif neu arwyddocaol” y mae modd arddel y disgresiwn. Nid oes sail gyfreithiol i’r un o’r tri maen prawf ychwanegol yma, sy’n cyfyngu'n sylweddol ar y disgresiwn y bwriedid ei roi yn gyfreithiol i awdurdodau lleol.”