Arbenigwyr yn galw am beilota cymhwyster Cymraeg newydd

Mae arbenigwyr addysg wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu peilot o gymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm newydd.

Bydd Cymraeg Ail Iaith yn cael ei ddisodli gydag un continwwm o ddysgu'r iaith pan ddaw'r cwricwlwm newydd i rym yn 2022. Mae penderfyniad y Llywodraeth yn dilyn argymhellion yr Athro Sioned Davies a gyhoeddwyd yn 2013.

Mae Cymwysterau Cymru wedi datgan y bydd newidiadau i gymwysterau er mwyn adlewyrchu'r cwricwlwm newydd, gyda'r disgyblion cyntaf yn sefyll arholiadau'r cymwysterau newydd yn 2027. Ond, mewn cyhoeddiad heddiw, mae arbenigwyr yn galw ar i'r cymhwyster Cymraeg fod ar gael yn llawer cynt.   

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi cymhwyster Cymraeg enghreifftiol newydd ar gyfer pob disgybl mewn digwyddiad yn y Senedd a noddir gan Carwyn Jones AC yr wythnos nesaf. Mae cyhoeddi'r cymhwyster yn dilyn bron i flwyddyn o drafodaethau gan weithgor o arbenigwyr. Ymysg y siaradwyr yn y digwyddiad bydd Gareth Pierce, cyn-brif Weithredwr CBAC, a ddywedodd cyn y lansiad:

"Mae'r Gymdeithas i'w chanmol am ddyfalbarhau wrth ddrafftio cymhwyster trwy drafod gydag arbenigwyr, ac mae'r gwaith sydd wedi ei gyflawni yn gam pwysig tuag at ymateb i'r her o ddarparu cyfle i bob un o'n pobl ifanc ddatblygu'n llawn o ran eu sgiliau yn y Gymraeg. Mae'n hanfodol nawr bod ein cyfundrefn addysg yn ymateb yn egnïol, efallai trwy sefydlu darpariaeth beilot er mwyn treialu ac ennyn hyder o ran gwireddu'r posibiliadau."

Mae'r gyn-athrawes Gymraeg yn Ysgol Penglais, Sandra Morris Jones, hefyd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu cynigion Cymdeithas yr Iaith. Dywedodd:

"Dyma gyfle euraidd i gyflwyno'r iaith a'r diwylliant i holl ddisgyblion Cymru yn ddiwahân. Rhaid i'r disgyblion a'u hathrawon ymateb yn uchelgeisiol i'r her a osodwyd gan y Senedd, sef miliwn o siaradwyr. Mae'n bwysig bod y deunyddiau dysgu, yr adnoddau a'r gwerslyfrau'n cael eu cynllunio'n heriol at ofynion y dasg fawr hon. Nid ar chwarae bach mae ceisio creu miliwn o siaradwyr. Rydym yn gwbl o ddifrif am hyn. Ni ddylai'n hieuenctid ddisgwyl dim llai. Maent yn haeddu'r gorau wrthym."

Ychwanegodd Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Nod ein cymhwyster cyfunol Cymraeg Iaith yw codi safonau ar gyfer y bobl ifanc hynny sy'n astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf yn ogystal â'r rhai sy'n diodde'r system ail iaith bresennol. Rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog Addysg i un continwwm o ddysgu'r iaith ac un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl, a fydd yn disodli'r cymwysterau presennol.  Fodd bynnag, ni all y Gymraeg aros tan 2027 i ddisgyblion ddechrau sefyll ei arholiadau, sef amserlen hynod araf y Llywodraeth. Mae angen peilot o'r cymhwyster cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cyflawni'r gwelliant gorau posibl i'r iaith."

"Oherwydd y system bresennol, mae tua 26,000 o bobl ifanc yn colli allan ar ruglder yn y Gymraeg bob blwyddyn. Er gwaethaf dros ddegawd o ddysgu'r Gymraeg fel pwnc felly, maen nhw'n cael eu hamddifadu o allu i ddefnyddio'r Gymraeg. Ni all y Gymraeg, Cymru na'r genhedlaeth bresennol o bobl ifanc fforddio parhau â'r system yma am flynyddoedd lawer i ddod."