Fe gyflwynodd Archdderwydd Cymru a chyn Aelod Cynulliad Owen John Thomas ddeiseb a lofnodwyd gan dros 1,500 o ymgyrchwyr yn galw am gofnod cwbl Gymraeg o drafodion y Cynulliad heddiw.Wrth i'r Cynulliad ymgynghori ar ei Fil Ieithoedd Swyddogol, fe fydd yr ymgyrchwyr yn galw am sicrhad ar wyneb y Bil y bydd y Cofnod llawn ar gael yn Gymraeg. Mae'r Bil fel mae wedi'i ddrafftio yn eithrio'r Cynulliad o unrhyw gyfrifoldeb i ddarparu dogfennau yn y Gymraeg, gyda hynny yn dibynnu ar gynnwys eu cynllun iaith. Fe fu'r Cofnod ar gael yn Gymraeg ers creu y Cynulliad tan 2009, ac mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dod i'r casgliad bod y Cynulliad yn torri'r gyfraith gyda'r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd.Fe ddywedodd Archdderwydd Cymru T. James Jones:"Cefnogaf ddeiseb Cymdeithas yr Iaith gan fy mod yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Amcan yr Orsedd yw hyrwyddo, meithrin a chefnogi'r defnydd o'r iaith Gymraeg ym mywyd a gwaith y genedl. Credaf fod yr amcan hwn yn gydnaws â bwriad y ddeiseb. Er mwyn i'r iaith ffynnu rhaid iddi gael yr un statws statudol â'r Saesneg. Dyna pam y dylai Cofnod y Cynulliad fod yn ddwyieithog, gyda sicrhad mewn statud ym Mil arfaethedig y Cynulliad."Ychwanegodd Catrin Dafydd, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Os yw'r gwleidyddion yn ein Cynulliad o ddifrif am wneud y Gymraeg yn ganolog i waith y corff, peth hollol sylfaenol yw sicrhau mewn statud bod Cofnod eu trafodion ar gael yn Gymraeg. Mae'n codi'r cwestiwn: pam fod swyddogion wedi llunio Bil drafft sydd yn eithrio'r Cynulliad rhag gorfod darparu dogfen mor bwysig â hyn yn ddwyieithog? Newid i'r Bil hwnnw yw'r unig ffordd o sicrhau nad oes rhaid codi'r ymgyrch yma eto. Mae pob corff a chwmni yng Nghymru yn edrych tuag at ein gwleidyddion yng Nghaerdydd am arweiniad ar y Gymraeg, os na allan nhw gyflawni ar ein rhan, fe fydd y Gymraeg yn dioddef ym mhob rhan o fywyd."