Mae Cymdeithas yr Iaith wedi arddangos cadwyn bapur ar ffurf plant ar risiau’r Senedd er mwyn galw am addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn cyn pleidlais ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg Gymraeg. Comisiynwyd yr arlunydd Osian Grifford i lunio'r gwaith er mwyn pwysleisio bod y gyfundrefn addysg yn amddifadu 80% o blant o'r Gymraeg ar hyn o bryd, ac i bwyso am newid er mwyn rhoi'r Gymraeg i bawb yn y dyfodol.
Bydd Aelodau’r Senedd yn cynnal dadl ac yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol Bil y Gymraeg ac Addysg yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, 14 Ionawr). Bwriad y Bil yw darparu sail statudol ar gyfer targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a rhoi "cyfle teg" i bob plentyn adael yr ysgol yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
Mae Cymdeithas yr Iaith o’r farn nad ydy’r Bil yn mynd i lwyddo am nad oes targedau statudol ar gyfer y ganran o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg, am nad yw'n mynd i gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion Saesneg, a bod diffyg ymrwymiadau cyllidol i uwchsgilio gallu Cymraeg y gweithlu.
I dynnu sylw at ddiffygion y Bil, gosododd y mudiad gadwyn bapur o ddeg o blant tu allan i’r Senedd, gydag wyth yn las i gynrychioli’r 80% o blant yng Nghymru sy’n gadael yr ysgol heb allu i siarad y Gymraeg yn hyderus, a dau yn goch i gynrychioli’r 20% sy’n gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg, gan eu bod mewn addysg Gymraeg.
Yn egluro, dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
“Pwrpas gweithred heddiw yw atgoffa’n gwleidyddion o’u dyletswydd i blant Cymru a methiant ein system addysg i roi’r Gymraeg i bob plentyn. Ar hyn o bryd, mae 80% o’n plant yn cael eu hamddifadu o’r hawl i siarad ein hiaith genedlaethol, a phlant o gefndiroedd cymdeithasol difreintiedig, lleiafrif ethnig ac o ardaloedd penodol sy’n cael eu hamddifadu fwyaf. Y perygl yw y bydd y Bil yma’n dal i amddifau rhan helaeth plant Cymru am ddegawdau i ddod.
“Mae gwleidyddion yn dweud yn aml bod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Os felly, dylent fanteisio ar y cyfleoedd fydd ganddyn nhw i gryfhau’r Bil yn sylweddol a gweithredu ar eu rhethreg fel nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl, a bod ein hiaith wir yn perthyn i bob un yng Nghymru.”
Bydd y gwaith celf hefyd i’w weld yn rali ‘Sefyll gyda’r 80%: Addysg Gymraeg i Bawb’ y mudiad wrth y Senedd ddydd Sadwrn, 15 Chwefror i alw am gryfhau’r Bil i sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn hyderus yn y Gymraeg. Ymysg y siaradwyr bydd Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith, y bardd a’r llenor Hammad Rind ac Is-Lywydd y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Catrin Edith.