Mae tair chwaer ymysg chwech o ferched sydd wedi eu harestio y bore yma ar ol paentio sloganau yn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith newydd ym Mhencadlys Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays Caerdydd.
Mae Angharad Clwyd o Bont-Tweli a Gwenno Teifi a Siriol Teifi o Lanfihangel-ar-Arth ynghyd a Menna Machraeth o Landdarog, Lois Barrar o Ferthyr a Lowri Larsen o Gaernarfon, sydd ill tri yn fyfyrwyr, yng nghelloedd yr heddlu yn y Tyllgoed ar hyn o bryd.Paentiwyd pedair slogan yn cynnwys ‘Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle’ ar furiau’r adeilad yn dilyn cynhadledd i’r wasg lle cyhoeddwyd enwau cannoedd o Gymry amlwg sydd wedi datgan eu cefnogaeth i’r alwad am Ddeddf Iaith newydd.Yn ol Cymdeithas yr Iaith, dyma’r cam cyntaf mewn cyfres o weithredoedd a fydd yn digwydd yn yr wythnosau nesaf hyd at y Nadolig. Mae cyflawni’r weithred hon yn nodi datbygiad pellach yn nifrifoldeb yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith newydd.Meddai Catrin Dafydd, Cadeirydd yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith newydd,"Nawr yw’r adeg i bwyso am Ddeddf Iaith newydd. Mae penderfyniad diweddar Llywodraeth y Cynulliad i ddiyddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn golygu fod rhyw fath o Ddeddf Iaith yn anochel. Bwriad Llywodraeth y Cynulliad yw cynnal rhyw fath o daclusiad gweinyddol cyfyng a dim mwy. Nid yw hyn yn ddigon da – mae angen Deddf Iaith gynhwysfawr i sefydlu hawliau sylfaenol i siaradwyr Cymraeg.Yn sgil gwrthwynebiad chwyrn Rhodri Morgan, fe fydd Cymdeihas yr Iaith yn mynd ati dros yr wythnosau nesaf i weithredru yn uniongyrchol i sicrhau fod y mater pwysig hwn yn cael ei drafod.Galwn ar bobl Cymru i gefnogi yr ymgyrch bwysig hon drwy fynychu y Rali Genedlaethol a gynhelir yng Ngaherdydd ar Hydref y 1af. Yn ogystal, galwn ar wrthbleidiau’r Cynulliad i godi’r mater ar fyrder.”Ychwanegodd Catrin Dafydd,“Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni honnodd Rhodri Morgan mai llond llaw o fwlis eithafol yn unig oedd yn cefnogi’r alwad am Ddeddf Iaith Newydd. Mae’r ffaith fod cynifer o Gymry amlwg wedi datgan cefnogaeth gyhoeddus yn dangos nad yw hyn yn wir. Bellach mae yna gonsensws cyffredinol sydd yn derbyn fod sicrhau deddfwriaeth newydd i’r Gymraeg yn gwbwl hanfodol er mwyn diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg dros y degawdau nesaf.”Nodyn cefndir:Cynhelir Rali Genedlaethol Deddf Iaith Newydd am 2 o’r gloch ar ddydd Sadwrn, Hydref y 1af ym Mhencadlys Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd. Ymhlith y siarwadwyr bydd Hywel Williams AS, Hywel Teifi Edwards, Mererid Hopwood a Steffan Cravos.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd.Stori oddi ar wefan y daily Post.Stori oddi ar wefan y South Wales Echo.Pwyswch yma i lawrlwytho copi PDF o'r hysbyseb lliw llawn a fydd yn ymddangos yn y wasg Gymreig dros yr wythnos nesaf (wedi ei noddi gan gefnogwyr).