Arolwg Barn: mwyafrif llethol yn cefnogi hawl gyfreithiol i gartref

Mae mwyafrif llethol o bobl Cymru – 85%, gan eithrio’r rheiny atebodd ‘ddim yn gwybod’ – yn credu y dylai’r hawl i dai digonol gael ei sefydlu yng nghyfraith Cymru, yn ôl arolwg barn newydd.

Byddai sefydlu’r hawl i dai digonol yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cartrefi fforddiadwy, addas, gyda deiliadaeth ddiogel ac sy’n bodloni gofynion diwylliannol, ar gael yn lleol i bawb yng Nghymru.

Mae Cymdeithas yr Iaith, a gomisiynodd y arolwg, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r hawl fel rhan o’u papur gwyn hir-ddisgwyliedig ar dai digonol a rhenti teg, gan ddweud y byddai unrhyw beth llai na hyn yn “annigonol” i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Mae’r mudiad yn cynnal rali genedlaethol i gefnogi Deddf Eiddo, a fyddai’n ymgorffori’r hawl yn y gyfraith, ym Machynlleth ar 14 Medi, gyda dirprwy arweinydd Plaid Cymru, Delyth Jewell AoS, Dafydd Morgan Lewis o Gymdeithas yr Iaith, a’r ysgrifennydd a'r darlledwr Mike Parker ymysg y siaradwyr.

Gofynnodd Yougov y cwestiwn canlynol i 1,151 o oedolion dros 16 oed yng Nghymru:

A ydych chi’n credu y dylai neu na ddylai yr hawl gyfreithiol i dai digonol fod wedi’i sefydlu yng nghyfraith Cymru? Mae tai digonol yn golygu cael deiliadaeth sicr – peidio â gorfod poeni am gael eich troi allan, cael eich cartref wedi’i gymryd i ffwrdd, cael eich symud i rywle y tu allan i’ch diwylliant, neu fod yn bell o wasanaethau fel ysgolion a chyflogaeth.

Roedd 74% yn credu y dylai’r hawl i dai gael ei sefydlu yng nghyfraith Cymru, tra bod 13% yn gwrthwynebu’r syniad. Gan eithrio’r rheiny a atebodd, ‘ddim yn gwybod’, cododd y ffigwr o blaid y polisi i 85%.

Roedd cefnogaeth arbennig o gryf ymhlith pleidleiswyr Llafur a Phlaid Cymru yn etholiad cyffredinol 2024, gyda 85% ac 89% o blaid yn ôl eu trefn. Gan eithrio’r rheiny atebodd ‘ddim yn gwybod’, cododd y ffigyrau hynny i 93% a 97%.

Mewn ymateb, dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r canlyniadau hyn yn dangos cefnogaeth gref ac eang dros ben i fynd i’r afael o ddifrif â’r argyfwng tai drwy sefydlu hawl gyfreithiol pobl Cymru i dai digonol.

“Ar hyn o bryd, mae’r farchnad dai yng Nghymru yn trin eiddo fel asedau yn unig, yn hytrach nag fel hawl ddynol, sydd yn ei dro yn dinistrio cymunedau trwy orfodi teuluoedd a phobl ifanc sydd methu fforddio byw yn lleol i adael. Ni allwn adael dyfodol cymunedau Cymraeg, boed Gymraeg neu ddi-Gymraeg, i fympwyon y farchnad agored fel hyn.

“Yr hawl gyfreithiol i gartref – fel sydd eisoes yn bodoli ar gyfer gofal iechyd neu addysg – yw sail ein cynigion Deddf Eiddo, ac rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i’w cynnwys yn eu papur gwyn sydd ar ddod ar dai. Byddai unrhyw beth yn llai na hyn yn annigonol."

AtodiadMaint
Canlyniadau Yougov Tai Cymraeg.png268.21 KB