Bydd arolygwyr Cymdeithas yr Iaith yn ymweld a siop Morrisons Caerfyrddin ddydd Sadwrn 24/11/07 am 1pm er mwyn gwneud arolwg o'r defnydd o'r Gymraeg yn y siop. Cyfarfu cynrhychiolwyr y Gymdeithas gyda Chris Blundell, aelod o Bwyllgor Gweithredol Morrisons ar 11eg o Fehefin 2007 i drafod a phwyso am statws cyfartal i'r Gymraeg.
Bu ail gyfarfod lle gwnaed addewid gan Morrisons y byddent mewn sefyllfa erbyn Hydref 2007 i ail-frandio un o'i siopau yng Nghymru fel siop brawf yn y ffyrdd mwyaf syml:* Arwyddion parhaol dwyieithog tu fewn a thu fas y siop* Cyhoeddiadau dwyieithog dros yr uchelseinydd* Hyfforddiant Cymraeg i'r staff ar gyfer defnydd yn y siop* Datblygu cynnyrch Cymru* Gwneud y rhan berthnasol o'r wefan yn ddwyieithogRoeddent hefyd wedi addo cysylltu gyda Cymdeithas yr Iaith a chyrff eraill a'r cyhoedd i fesur ymateb i'r siop brawf dwyieithog cyn estyn y polisi i'w siopau drwy Gymru fel rhan o'u hail-frandio. Cafwyd addewid y byddent erbyn yr Hydref yn ymateb i'r gofynion canlynol gan y Gymdeithas:* Y byddai'r holl daflenni a phosteri wythnosol i hyrwyddo Morrisons yn defnydio'r Gymraeg, ac* Y byddai'r labeli ar gynnyrch Morrisons yn ddwyieithog (yn dilyn y norm aml-ieithog ar gyfandir Ewrop) gan gychwyn gyda'u cynnyrch hunan-frand eu hunain (7,000 ohonynt, yn gyntaf y rhai wedi'u gwneud yng Nghymru gan fod angen cynhyrchu labeli arbennig ar eu cyfer)Pwysleisiodd y Gymdeithas mai gweithredu ar y 2 fater olaf hyn fyddai'n golygu defnydd o ddifri o'r Gymraeg yn eu busnes; mae'r argymhellion cyntaf - er yn bwysig - yn fwy symbolaidd. Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed:"Gan nad ydym wedi clywed dim gan Morrisons mewn ymateb i'n ceisiadau, rhaid i ni gasglu eu bod wedi torri eu haddewid. Bydd aelodau'r Gymdeithas yn gwneud arolwg ddydd Sadwrn fel sail i'n hymgyrchu yn y dyfodol. Byddem wedyn yn cysylltu â nhw gyda chanlyniadau ein harolwg a gofyn iddynt ymateb o fewn wythnos; os na ddaw ymateb boddhaol byddwn yn trefnu ein hymgyrch yn eu herbyn gan ddechrau gyda dwy brotest yn Aberystywth a Bangor ar y ddau benwythnos dilynol."