Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu'r ffaith i arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin leisio pryderon nad yw'r Gymraeg yn cael ei ystyried ym Mil Cynllunio Llywodraeth Cymru.
Mewn llythyr gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i'r Gweinidog Cynllunio, Carl Sargeant, mae nifer o argymhellion Gweithgor y Gymraeg, a grëwyd gan y cyngor sir fel rhan o'u hymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad yn cael eu codi.
Mae'r llythyr gan y Cynghorydd Kevin Madge, Arweinydd y cyngor, yn galw ar i Lywodraeth Cymru wneud y Gymraeg yn ystyriaeth statudol o fewn y system gynllunio, un o ofynion allweddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dywed y llythyr: "Fe gyflwynwyd y Bil Cynllunio i’r Cynulliad ar 6 Hydref eleni. Dymunwn nodi siom nad yw’r Bil yn darparu llawer ynglŷn â’r iaith Gymraeg."
Mae'r llythyr hefyd yn galw ar y Llywodraeth i ail ystyried y broses o ragweld y nifer o dai sydd eu hangen ym mhob ardal, gan roi ystyriaeth i anghenion pob cymuned.
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni'n falch iawn bod Arweinydd y cyngor, gyda chefnogaeth y cyngor cyfan, yn fodlon mynnu newidiadau i'r Bil Cynllunio fel bod y Gymraeg yn ganolog iddi. Gyda chefnogaeth un o arweinwyr lleol pwysicaf y blaid lafur i'n safbwynt bod angen newidiadau i'r Bil, rydyn ni nawr yn obeithiol iawn bydd y Llywodraeth yn newid ei chynlluniau.
"Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob rhan o Gymru; mae cymunedau Cymraeg a'u ffyniant yn hanfodol i'r Gymraeg ar draws Cymru gyfan. Mae angen i'r drefn gynllunio adlewyrchu anghenion Cymru, dyna pam rydyn ni eisiau i'r ddeddfwriaeth seilio'r drefn ar anghenion lleol, gyda'r Gymraeg yn ystyriaeth statudol ganolog iddi. Gydag ewyllys gwleidyddol ac ymgyrchu cadarnhaol, rwy'n grediniol y gallai'r Gymraeg ddod yn brif iaith gymunedol pob un cymuned yng Nghymru dros y degawdau nesaf."
Ychwanegodd Richard Vale ar ran rhanbarth Sir Gâr Cymdeithas yr Iaith: “Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi bod yn arwain y ffordd – o sefydlu gweithgor i edrych ar sefyllfa'r Gymraeg i herio'r Llywodraeth nawr. Mae cyfle gan y Llywodraeth i ddangos eu bod nhw'n cymeryd yr argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg o ddifrif, does bosibl y gallan nhw anwybyddu galwad gan arweinydd cyngor sir o'u plaid eu hunain."
"Yn fwy na hynny, mae'r cyngor yn dweud wrth y Llywodraeth am weithredu er lles cymunedau, ond beth amdanyn nhw eu hunain? Gall y cyngor wrthod y Cynllun Datblygu Lleol a dechrau o'r newydd - gan roi blaenoriaeth i'r nifer o dai sydd eu hangen fesul ardal."
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi codi pryder eisoes nad yw'r Gymraeg yn rhan o'r Bil Cynllunio ac wedi galw am ymddiswyddiad Carwyn Jones o'i gyfrifoldebau iaith o achos hynny.
Y stori yn y wasg -
Golwg 360 - Arweinydd Llafur yn condemnio Bil am ddiffyg lle i’r iaith
Western Mail - Welsh language 'flaws' in planning bill blasted by Labour council leader
South Wales Evening Post - Council Leader's Demand for Welsh Langugae Consideration