Arwyddion Dwyieithog yn Abertawe. Ail gydio yn y brwsh paent?

Cyngor Saesneg AbertaweMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gresynu at y newyddion fod Cyngor Sir Abertawe am godi arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg yn yr ardal gan ddefnyddio iechyd a diogelwch fel esgus dros wneud hynny. Heddiw anfonodd y Gymdeithas y llythyr isod at Brif Weithredwr Cyngor Abertawe yn mynegi ei phryder.

Sylwaf oddi wrth adroddiadau yn y wasg a'r cyfryngau fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe am godi arwyddion uniaith Saesneg gan gynnig yr esgus fod arwyddion dwyieithog yn beryglus. Ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg hoffem wybod:1. Ar sail pa ymchwil y daethpwyd i'r casgliad fod arwyddon dwyieithog yn beryglus? Wedi’r cwbl fe wnaeth Pwyllgor Roderick Bowen ar Arwyddion Dwyieithog (1971) astudiaeth fanwl i'r pwnc hwn a dod i'r casgliad nad oedd arwyddion dwyieithog yn beryglus.2. Mae arwyddion dwyieithog neu amlieithog i'w cael led led Ewrop mewn gwledydd lle siaredir mwy nag un iaith swyddogol. Cyfeiriwn at rai o'r gwledydd hyn - Sweden, Gwlad Belg, Sbaen, Y Swistir. A fedrwch egluro i mi pam nad yw arwyddion dwyieithog yn cael eu hystyried yn beryglus yn y gwledydd hyn, ond yn beryglus yn Abertawe?3. Yn wir, mae siroedd eraill Cymru ei hun ynghyd a'r Cynulliad Cenedlaethol yn cydnabod nad oes berygl o gwbl mewn arwyddion dwyieithog? A fedrwch egluro i mi sut y daeth Cyngor Dinas a Sir Abertawe i gasgliad gwahanol?4. Onid yw Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn mynd yn groes i'w Gynllun Iaith drwy beidio gweithredu polisi dwyieithog ynn y maes hwn?A fyddem yn iawn yn tybio mai agwedd sarhaus at y Gymraeg yn hytrach nac unrhyw ofal dros ddiogelwch y cyhoedd sydd wrth benderfyniad Cyngor Dinas a Thref Abertawe i beidio a chodi arwyddion dwyieithog?Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ymhellach;"Os bydd y Cyngor Sir yn mynd ymlaen gyda'r penderfyniad gwallgof hwn fe fydd yn rhaid i'r Gymdeithas ail ystyried cydio yn y brwsh paent a pheintio'r byd yn wyrdd unwaith eto. Mae'r holl helynt hefyd yn profi fod gwir angen Deddf Iaith Newydd fel nad yw nonsens fel hyn yn codi yn y dyfodol. Yn y cyfamser bydd y Gymdeithas yn ysgrifennu at y Bwrdd Iaith a Llywodraeth y Cynulliad i gwyno am hyn."'Dim arwyddion Cymraeg' - Dydd Llun, 24 Medi 2007, BBC Cymru'r Byd