Atal busnes yn M&S Trostre

Daeth busnes Marks and Spencer Trostre, ger Llanelli, i stop am hanner awr heddiw (dydd Sadwrn y 25ain o Ionawr) wedi i aelodau o Gymdeithas yr Iaith wrthod talu am eu siopa.
 
Llanwyd trolis gyda thuniau a jariau o fwyd o'r siop a mynd â nhw at y mannau talu cyn i'r ymgyrchwyr ddweud nad oedden nhw am brynu'r bwyd am fod Marks and Spencer wedi tynnu arwyddion Cymraeg o ddwy siop yn Sir Gaerfyrddin (Trostre a Chaerfyrddin),. Fe ddywedodd y cwmni wrth Cymdeithas yr Iaith y bydden nhw'n yn edrych ar eu polisi yn genedlaethol ond yn ôl yr ymgyrchwyr does dim byd wedi newid.
 
Meddai Bethan Williams, Swyddog Maes y Gymdeithas yn yr ardal:
 
“Fe fuon ni'n protestio sawl gwaith yng Nghaerfyrddin a dechrau gweld newid - mae'r siop wedi dweud eu bod nhw'n edrych ar y peth yn genedlaethol ond yn gwrthod rhoi dyddiad – ac yn llusgo'u traed. Ers i ni brotestio ddiwethaf mae rhai arwyddion dwyieithog yng Nghaerfyrddin ond does dim byd mwy wedi newid ers in ni gwrdd â nhw ddiwethaf rhyw bedwar mis yn ôl. Rydyn ni wedi gofyn iddyn nhw felly i ddefnyddio'r Eisteddfod Genedlaethol fel cyfle i wneud yn siŵr y bydd siopwyr fydd yn dod o bob rhan o Gymru yn gallu siopa drwy'r Gymraeg. Dydy gwasanaeth arwynebol ddim yn ddigon da.”
 
Synnwyd staff y siop a chwsmeriaid wrth i'r protestwyr ddod â'r siop i stop a rhannu taflenni yn esbonio beth oedden nhw'n ei wneud. Mae staff y siop wedi addo trosglwyddo sylwadau'r ymgyrchwyr at uwch-swyddogion.
 
Ychwanegodd un o'r protestwyr :
 
“Nid gyda chwsmeriaid na staff y siop roedd ein cwyn, ac roedden nhw'n deall ein safbwynt. Mae gwasanaeth Gymraeg y siop yn dal i fod yn fethiant a ni wedi ein siomi, felly fe wnaethon ni wrthod prynu beth oedden ni wedi bwriadu gwneud. Drwy wneud hyn rydyn ni'n dangos i M&S fod drwgdeimlad o hyd, ac yn eu hatgoffa nhw fod angen iddyn nhw roi gwasanaeth Cymraeg i bobl y sir.”
 
 
Mwy am yr ymgyrch ac i ddanfon y llythyr at y cwmni i gwyno - http://cymdeithas.org/llythyrMaS
 
Y stori yn y wasg: