Ni ddylai'r Ardd Fotaneg dderbyn arian cyhoeddus tra ei bod yn torri ei chynllun iaith, dyna alwad ymgyrchwyr mewn llythyr at y Prif Weinidog ac Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin.
Mae aelodau o ranbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am dorri ei chynllun iaith drwy godi arwydd uniaith Saesneg ar ochr yr M4 yn ddiweddar, a danfon gohebiaeth Saesneg.
Mewn llythyr at Gyfarwyddwr y Gerddi dywed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod y gerddi yn torri eu cynllun iaith:
“Y 'cyfiawnhad' rydych wedi ei roi dros godi arwydd uniaith Saesneg yw mai'r farchnad dwristaidd oedd y targed, ond mae'r arwydd yn torri ar y Cynllun Iaith ar wefan y Gerddi.... Fe wnaethon ni gynnal cyfarfodydd gyda chi rai blynyddoedd yn ôl wnaeth arwain at godi arwyddion dwyieithog yn y gerddi, a bu trafodaeth am gynnig gwersi Cymraeg i staff, ac annog staff i wneud defnydd o'r Gymraeg. Mae'n ymddangos er hynny nad yw meddylfryd y gerddi wedi newid rhyw lawer.”
"Fel sefydliad cenedlaethol sy’n derbyn arian cyhoeddus a chefnogaeth sylweddol gan yr awdurdod lleol a llywodraeth ganolog mae’n sefyll i reswm y dylai fod gwasanaeth Cymraeg llawn ar gael. Pan fo’ch ymateb fel sefydliad i gwynion gan y cyhoedd ynghylch diffygion yn ymylu ar haerllugrwydd, mae’n codi cwestiynau mawr am agwedd y sefydliad cyfan at y Gymraeg, ac at broffesiynoldeb rhai o’ch staff."
Mewn llythyrau at Brif Weinidog Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, dywed y mudiad iaith:
"Mae ... agwedd yr Ardd at y Gymraeg, [yn] bell iawn o’r hyn sy’n ddisgwyliedig yn yr unfed ganrif ar hugain. Nid yn unig hynny, ond pan mae pobl gyffredin wedi cwyno am ddiffyg gwasanaethau a pharch sylfaenol i’r Gymraeg, mae ymateb swyddogion yr Ardd wedi bod yn gwbl annerbyniol, gan ymylu ar fod yn haerllug.
"Rydym yn deall [eich bod] yn rhoi arian sylweddol i’r Ardd Fotaneg bob blwyddyn. Galwn arnoch i atal yr arian cyhoeddus sy’n cael ei roi gan y Cyngor i’r Ardd Fotaneg tan eu bod yn dangos parch dyledus i’r Gymraeg. Fel arweinydd Cyngor mewn ardal lle mae’r Gymraeg yn wynebu’r fath argyfwng rwy’n siŵr y byddwch am weithredu ar y mater hwn ar fyrder."
Ychwanegodd Manon Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Mae arwyddion newydd uniaith Saesneg wedi eu codi dros y penwythnos felly pam ddylai pobl Cymru dalu am Ardd Fotaneg Genedlaethol sydd mor amharchus ei hagwedd tuag at y Gymraeg? Yn fwy na thorri ei chynllun iaith, cawn yr argraff fod yr Ardd Fotaneg yn credu bod ymwelwyr o Loegr yn bwysicach nag ymwelwyr o Gymru. Mae nifer o bobl, yn y sir ac yng Nghymru yn ymweld â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru bob blwyddyn – a gan fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yma yng Nghymru, da o beth fyddai i'n sefydliadau cenedlaethol adlewyrchu hynny – i bobl o Gymru a thu hwnt.”
I ddanfon llythyr at yr Ardd Fotaneg, Kevin Madge - Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Carwyn Jones - Prif Weinidog Cymru pwyswch yma
Y stori yn y wasg;
Galw am Atal Grant i'r Ardd Fotaneg - Golwg360 Ebrill 13
Galw am Atal Cyllid i'r Ardd Fotaneg - Newyddion BBC Ebrill 13
National Botanic Garden Defends its Approach to Welsh Laguage - Walesonline Ebrill 13
Calls for Botanic Garden to Lose Funding over Langugae Row - Carmarthen Journal Ebrill 15
M4 Sign Steers Botanic Garden into Language Row - South Wales Guardian Ebrill 17