Mi fyddai ymgyrchwyr iaith yn barod i gefnogi protestiadau mewn cymunedau gwledig er mwyn atal Brecsit caled, meddai mudiad iaith yn yr Eisteddfod heddiw.
Fis diwethaf, rhybuddiodd ffermwyr y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb arwain at anufudd-dod sifil ar lawr gwlad. Ac mewn cyfarfod ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst heddiw, dywedodd Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith y byddai’r mudiad yn cefnogi unrhyw brotestiadau di-drais a drefnir gan ffermwyr ar lawr gwlad er mwyn amddiffyn cymunedau gwledig.
Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, mae 40% o weithwyr amaeth yn siarad Cymraeg, sef y ganran uchaf o bob maes gwaith yn y wlad. Yn ogystal â hynny, mae llawer o’r cymunedau lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad yr iaith yn hollol ddibynnol ar ffermio. Mae ardaloedd helaeth yn y gorllewin, y canolbarth a’r gogledd lle mae hyd at 27% o’r boblogaeth yn gyflogedig yn y sector amaeth.
Gwnaed y sylwadau gan gynrychiolydd Cymdeithas yr Iaith mewn trafodaeth ar faes yr Eisteddfod am gefnogi ffermwyr, gyda Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Glyn Roberts, Non Williams ac Alun Elidyr.
Yn siarad mewn digwyddiad ar y maes, dywedodd Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith:
“Mae’r diwydiant amaeth, a’r holl deuluoedd a masnachwyr sy’n dibynnu arno, o dan warchae ar hyn o bryd. Mae’r bobl a’r cymunedau yma’n greiddiol i gynnal yr iaith; byddwn ni’n cefnogi ffermwyr gant y cant yn eu protestiadau neu unrhyw ddulliau di-drais eraill maen nhw’n dewis eu defnyddio er mwyn atal Brecsit Boris Johnson rhag dinistrio cymunedau cefn gwlad. Wedi’r cwbl, mae hyn oll yn rhan o ddarlun ehangach yn yr ymgyrch i sicrhau ffyniant y Gymraeg. ‘Dan ni’n ymgyrch i atal y diboblogi o’n cymunedau gwledig ac allfudiad ein pobl ifanc o Gymru.”
“Mae Boris Johnson fel Arweinydd y Blaid Geidwadol yn bygwth y Gymraeg ar sawl lefel, ac yn cynrychioli twf yn y rhagfarn yn erbyn y Gymraeg ers y refferendwm. Mae o’n dweud bod gormod o ardaloedd lle nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf y boblogaeth, ’dan ni’n dweud nad oes digon ohonyn nhw. Yn ddiweddar, ‘dan ni wedi gweld cynnydd yn yr ymosodiadau ar ddefnydd y Gymraeg ar lawr gwlad, fel ‘dan ni’n gweld mwy o ymosodiadau ar leiafrifoedd eraill. Mae’r frwydr yn erbyn popeth mae Boris Johnson yn ei gynrychioli yn rhan o frwydr ehangach yn erbyn twf yr adain-dde eithafol.”