BBC ‘ymerodraethol’ yn dwyn staff S4C

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb gyda thristwch i'r newyddion bod y BBC wedi cyflogi 34 staff S4C, sef ei holl dîm technegol. 

Meddai Heledd Gwyndaf, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith 

"Mae'n ddiwrnod trist iawn i ni fel cenedl. Mae S4C yn colli ei allu i fod yn ddarlledwr annibynnol; mae nawr yn llwyr ddibynnol ar y BBC, corfforaeth sy'n cael ei redeg o Loegr. Mae'n dangos gwir natur ymerodraethol y BBC sydd a chanddynt chwant diddiwedd i draflyncu S4C. Ond mae hefyd yn codi llawer o gwestiynau am pam fod S4C wedi bodloni i'r fath beth - dallineb, diffyg asgwrn cefn neu wedi'u prynu, neu ychydig o bob un falle?" 

"Datganoli pwerau darlledu i Gymru yw'r unig ateb: dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru. Dyna'r ffordd i adfer plwraliaeth yn ein cyfryngau Cymraeg a Chymreig ac i warchod y Gymraeg a'n democratiaeth. Gyda'r pŵer i reoli darlledu yng Nghymru, bydd modd ail-sefydlu gallu technegol S4C i ddarlledu eu rhaglenni eu hunain o'i phencadlys newydd yng Nghaerfyrddin."