Mae mudiad iaith wedi beirniadu penderfyniad y BBC i beidio cael pabell yn Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe eleni.G?yl gystadleuol fwyaf Ewrop i ieuenctid yw Eisteddfod yr Urdd, ond am y tro cyntaf ers blynyddoedd ni fydd gan y BBC babell ar gyfer teuluoedd sydd yn mynychu'r digwyddiad.Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bod penderfyniad y BBC yn dangos na fyddai S4C yn ddiogel o dan reolaeth y gorfforaeth:"Ar ben gwario llai ar deledu Cymraeg a chael gwared o wefan Gymraeg, mae'r penderfyniad hwn gan y BBC yn dangos yn glir i ba ffordd mae'r gwynt yn chwythu. Dyw diwylliant Cymraeg ddim yn ddiogel yn eu dwylo nhw. Yn amlwg, mae'r digwyddiad Cymraeg hwn ar gyfer plant yn Abertawe yn rhywbeth ymylol iddynt. A oes rhagor o benderfyniadau fel hyn i ddod? A fydd y BBC yn teimlo nad oes rhaid iddynt gefnogi digwyddiadau Cymraeg os byddan nhw'n rheoli S4C?"O dan fargen rhwng Llywodraeth y DU a'r BBC, fe fydd toriadau sylweddol i gyllideb S4C a bydd y BBC yn traflyncu'r sianel. Cynhelir protest tu allan i swyddfeydd Caerfyrddin y BBC dydd Sadwrn yma. Ychwanegodd Bethan Williams:"Mae angen corff hollol annibynnol a fydd yn rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg, dyna un o'r prif rhesymau y sefydlwyd S4C yn lle cyntaf. Ond o dan gydgynllun arfaethedig y BBC a'r Llywodraeth yn Llundain, bydd annibyniaeth y sianel yn mynd yn llwyr - adran o'r BBC fydd hi, gyda 40% llai o arian, ac mae posibilrwydd y bydd gan weinidogion yn Llundain grym i ddiddymu'r sianel yn llwyr. Mae'r Llywodraeth Prydeinig wedi anwybyddu galwadau gan arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru hyd yn hyn a nawr mae'r BBC yn gwneud yr un peth drwy anwybyddu g?yl bwysig iawn i ddiwylliant a ieunectid Cymru"Fodd bynnag, mae yna obaith o hyd, mae'n hymgyrch i achub S4C yn codi stem. Mae nifer fawr iawn o bobl ifanc wedi penderfynu trefnu protest yng Nghaerfyrddin dydd Sadwrn yma. Gyda hyd yn oed rhagor o gefnogaeth gallwn ni ennill y frwydr yn erbyn cydgynllun y BBC a'r Llywodraeth yn Llundain i ddinistrio ein hunig sianel teledu Cymraeg. Gobeithio y byddan nhw'n ail-ystyried ei benderfyniad i dynnu allan o Eisteddfod yr Urdd hefyd."