Mae menyw o Geredigion yn mynd i barhau i wrthod talu dirwy a gafodd am ei rhan yn yr ymgyrch i ennill pwerau darlledu i Gymru, er gwaethaf ymweliad gan feilïaid ychydig wythnosau yn ôl.
Cafodd Eiris Llywelyn, sy’n 68 mlwydd oed o Ffostrasol yng Ngheredigion, ei dyfarnu’n euog o wrthod talu ei ffi drwydded deledu a chael cosb llys o £220 ddydd Mercher, 3ydd Ebrill. Hi oedd y trydydd unigolyn i fynd gerbron achos llys am wrthod talu’r ffi drwydded deledu fel rhan o’r ymgyrch i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru, ond y cyntaf i ddatgan nad yw’n mynd i dalu cosb ariannol llys ac felly wynebu carchariad.
Dywed Eiris Llywelyn o’i chartref yn Ffostrasol:
“Dwi’n bwriadu parhau i beidio â thalu a dwi’n fodlon wynebu’r canlyniadau. Mae’r beilïaid wedi galw ac yn bwriadu cymryd fy eiddo y tro nesa ond dwi ddim yn mynd i adael iddyn nhw ddod i mewn i’r tŷ. Dwi’n fodlon mynd â’r brotest i’r pen er mwyn tynnu sylw at fater sydd o bwys aruthrol i’n cenedl. Byddai datganoli’r pwerau cyfathrebu a darlledu hyn er lles democratiaeth Cymru, yn ogystal â’r Gymraeg. Mae diffyg cynnwys Cymreig a Chymraeg ar y cyfryngau yn bygwth parhad hunanlywodraeth yng Nghymru, ac mae’n rhaid mynd i’r afael â’r mater.”
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod pwerau darlledu i Gymru yn hanfodol er mwyn cynnal democratiaeth Cymreig a’r Gymraeg. Yn ôl arolwg barn, mae llai na hanner poblogaeth Cymru yn gwybod bod y cyfrifoldeb dros iechyd wedi ei ddatganoli i’r Senedd yng Nghaerdydd.
Mae dros naw deg o bobol yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu mewn ymdrech i drosglwyddo rheolaeth dros ddarlledu o San Steffan i Gymru.
Ychwanegodd Heledd Gwyndaf o Gymdeithas yr Iaith:
“Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i Eiris am ei safiad. Mae’n frwydr dros ddyfodol ein hiaith a’n cymunedau a dros ddemocratiaeth. Mae democratiaeth yn amhosibl os na fydd rheolaeth dros ddarlledu yng Nghymru yn symud o Lundain i Gaerdydd a’r cyfryngau yn adlewyrchu ein gwerthoedd a’n diwylliant ni a’n bod ni’n gweld y byd drwy ffenestr Gymreig. Mae datganoli’r system ddarlledu'r un mor bwysig â datganoli grym gwleidyddol.
“Rydym yn falch i weld mwyfwy o gefnogaeth o du Llywodraeth Cymru ac eraill i’r ymgyrch. Dylai penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru. Rydyn ni wedi cael hen ddigon o Aelodau Seneddol yn Llundain nid yn unig yn gwneud toriadau i’r cyfryngau Cymraeg, ond hefyd yn teyrnasu dros system sy’n rhoi cyn lleied o sylw i faterion Cymreig a chyfryngau nad ydynt yn adlewyrchu bywydau pobl yng Nghymru.”
Yn ôl arolwg barn gan YouGov a gyhoeddwyd y llynedd, mae 65% o bobl Cymru yn ffafrio datganoli darlledu i'r Senedd yng Nghymru.