Rydyn ni'n feiriniadol o sylwadau'r Prif Weinidog yn y Siambr yn hallt, ar ôl iddo ddweud nad oedd am weld pob plentyn yng Nghymru yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol, gan awgrymu ei fod am gynnal y gyfundrefn bresennol lle mae mwyafrif pobl ifanc Cymru yn gadael yr ysgol heb fod yn hyderus yn y Gymraeg.
Yn ôl Catrin Dafydd o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Rydyn ni'n rhyfeddu bod gwleidydd fel Mark Drakeford sy'n credu mewn cyfiawnder cymdeithasol yn dewis anwybyddu annhegwch y sefyllfa bresennol ac ymwrthod â'r alwad resymol i roi addysg cyfrwng Gymraeg i bob plentyn dros amser. Fel y saif pethau, mae 80% o'n pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o'r Gymraeg gan y gyfundrefn addysg. Drwy ei sylwadau adweithiol yn y Siambr, mae'n amlwg bod y Prif Weinidog yn dewis allgáu mwyafrif ein pobl ifanc o'r Gymraeg am genedlaethau i ddod, yn hytrach nag agor y drysau i bawb gael mynediad at yr iaith."
Ychwanegodd Catrin Dafydd, "Deddf i'r rhai sydd wedi'u gadael ar ôl ddylai'r Ddeddf Addysg Gymraeg fod, deddf fydd yn sicrhau y bydd gan bob person ifanc sy'n gadael yr ysgol ddewis go iawn o ran pa ieithoedd maen nhw am fyw eu bywydau drwyddyn nhw. Fe ddylai penderfyniadau fel hyn gael eu gwneud o bersbectif plentyn-ganolog, ond mae sylwadau'r Prif Weinidog yn dangos ei fod yn fodlon blocio buddiannau cenedlaethau'r dyfodol."
Cyhoeddwyd ffigurau iaith Cyfrifiad 2021 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddydd Mawrth, gan ddangos cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg i 538,000, neu 17.8% o'r boblogaeth, a hynny er gwaethaf targed y Llywodraeth o gynyddu nifer y siaradwyr i filiwn erbyn 2050.
Ychwanegodd Catrin Dafydd:
"O ystyried ffigurau'r Cyfrifiad ddydd Mawrth, mae'r sylwadau yma'n codi cwestiynau, a ydy Llywodraeth Mark Drakeford o ddifri am darged y miliwn o gwbl. Dydy gosod targed ddim yn mynd i gyflawni dim heb weithredu i sicrhau twf."
"Mae miloedd o blant yn colli allan ar y cyfle i ddod yn rhugl yn y Gymraeg ar hyn o bryd, ac rydyn ni'n gwybod na fydd y sefyllfa'n newid dros nos. Ond mae nod hirdymor o roi pob ysgol ar y llwybr tuag at addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050 yn alwad gwbwl resymol. Mae'n ymddangos o'i sylwadau bod y Prif Weinidog yn dewis atal 80% o blant Cymru rhag dod i siarad Cymraeg yn rhugl a hyderus."
Rydyn ni wedi llunio ein Deddf Addysg ein hunain sydd i'w weld yma.