Bil Cynllunio: Croesawu newidiadau, ond gwendidau o hyd

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu'r ffaith y gall y Gymraeg fod yn rheswm statudol i gynghorwyr wrthod neu dderbyn ceisiadau cynllunio yn sgil pleidlais yn y Cynulliad heddiw ar y Bil Cynllunio.  



Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd wedi bod yn ymprydio gyda thros 30 o aelodau eraill y mudiad iaith dros newidiadau i'r ddeddfwriaeth:



"Diolch i'r ymprydwyr a'r holl negeseuon sydd wedi mynd at Aelodau Cynulliad mae rhai o'n galwadau wedi cael eu mabwysiadu gan y Cynulliad heddiw, ond mae'n siomedig nad yw'r Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion trawsbleidiol. Rydyn ni'n falch iawn bod y Gymraeg bellach yn ystyriaeth berthnasol yn y gyfundrefn gynllunio, ond ni fydd yr elfen newydd yno yn gallu gweithio'n iawn heb asesiadau effaith iaith ar geisiadau unigol. Bydd yn hanfodol i gynghorwyr gael tystiolaeth gadarn i seilio eu penderfyniadau arnyn nhw. Byddwn ni'n gofyn am gyfarfod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a cynghorau sir i drafod sut i wneud i'r ddarpariaethau newydd ar waith yn iawn. Bydd angen ail-lunio TAN 20 - y canllawiau presennol - yn sgil y bleidlais heddiw.  



"Mae'n destun syndod i ni fod y blaid lafur wedi ymddwyn fel y grym ceidwadol yng nhyswllt y ddeddfwriaeth hon gan wrthod yr ewyllys trawsbleidiol i sefydlu cyfundrefn a fyddai'n blaenoriaethu y Gymraeg yn hytrach nag elw datblygwyr. Fodd bynnag, rydyn ni'n gobeithio y bydd modd i holl bleidiau'r Cynulliad weithredu ar fwy o'n galwadau drwy ddeddfwriaeth a rheoliadau pellach yn y misoedd a blynyddoedd nesaf."