Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu addewid y Gweinidog Cynllunio Carl Sargeant i Bwyllgor Amgylchedd y Llywodraeth heddiw (Dydd Mercher, 14eg Ionawr) ei fod yn mynd i gyflwyno gwelliannau ynghylch y Gymraeg yn y Bil Cynllunio.
Dywedodd y Gweinidog wrth Aelodau Cynulliad ei fod yn 'edrych i gyflwyno gwelliannau [i'r Bil] ynghylch y Gymraeg'. Wrth groesawu'r newyddion, dywedodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'n dda clywed ymrwymiad y Gweinidog i wella'r Bil i gynnwys y Gymraeg mewn ffordd sy'n cadarnhau bod y Gymraeg yn perthyn i bawb ac i bob rhan o Gymru. Mae'n hymgyrch yn dechrau dwyn ffrwyth. Byddwn ni'n cwrdd â swyddogion y Llywodraeth i drafod y materion hyn yn bellach dros yr wythnosau nesaf, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at drafod llunio system newydd sy'n adlewyrchu anghenion unigryw Cymru. Trefn gynllunio newydd er mwyn cryfhau'r Gymraeg sydd ei hangen wrth gwrs, ond dylai hefyd fynd i'r afael â gwella'r amgylchedd a thaclo lefelau tlodi.
"Allwn ni ddim parhau gyda Bil sy'n dynwared system sy'n bodoli yn Lloegr, gallai fod yr hoelen olaf yn arch ein cymunedau Cymraeg. Cam cyntaf yn unig yw hyn. Bydd angen i Awdurdodau Lleol yn ogystal â Llywodraeth Cymru weithredu i ddiogelu ac i hyrwyddo'r Gymraeg yn ein cymunedau."
Daw sylwadau'r Gweinidog wedi i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddatgan ei bod wedi cychwyn camau cyfreithiol i herio'r ddeddfwriaeth ar y sail bod y Llywodraeth wedi anwybyddu cyngor Comisiynydd y Gymraeg ar y Bil. Y llynedd, ysgrifennodd saith arweinydd cyngor at y Llywodraeth i gwyno am y diffyg sôn am yr iaith.