Bil Cynllunio yn torri'r gyfraith - Cymdeithas yn gofyn am gyngor

Gallai methiant Llywodraeth Cymru i gymryd ystyriaeth o gyngor Comisiynydd y Gymraeg olygu bod y Bil Cynllunio yn anghyfreithlon, dyna ddywed Cymdeithas yr Iaith sydd wedi cymryd cyngor cyfreithiol ar y mater. 

Mae Mesur y Gymraeg yn dweud bod rhaid i'r Llywodraeth gymryd 'sylw dyladwy' o gyngor ysgrifenedig y Comisiynydd, ond, gan iddynt anwybyddu'r iaith yn y Bil, gallai'r Bil gael ei ddiddymu mewn her gyfreithiol. Mae'r her bosib yn dilyn llythyr agored gan draean o arweinwyr cyngor sir Cymru yn galw am newidiadau sylweddol i'r Bil oherwydd ei effaith ar yr iaith ac ar ddemocratiaeth leol. 

Wrth sôn am y ffaith bod y Gymdeithas wedi cymryd cyngor cyfreithiol ar y mater, meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Nid ar chwarae bach mae rhywun yn ystyried cymryd y math yma o gam, ond mae'r Llywodraeth wedi cael sawl cyfle i wrando ar gyngor arbenigol y Comisiynydd a'i weithredu, ac wedi gwrthod pob tro. Rydyn ni dal yn obeithiol y byddan nhw'n newid eu meddwl yn dilyn y gwrth-wynebiad ffyrnig gan arweinwyr cynghorau ac eraill. Mae’r cyngor rydyn ni wedi derbyn yn galonogol, ac mae na siawns gref bod y Llywodraeth wedi rhedeg proses wallus. 

Ysgrifennodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, at y Llywodraeth fis Chwefror eleni ac y llynedd gyda chyngor ynglŷn â'r Bil Cynllunio, gan dynnu sylw at wendidau'r ac anghysonderau'r drefn bresennol o ran yr iaith, ac argymhellodd pedwar gwelliant penodol i fil cynllunio'r Llywodraeth. Er gwaethaf addewid y Prif Weinidog, Carwyn Jones, mewn dogfen polisi a gyhoeddwyd fis Mehefin, i ystyried 'pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg o fewn y system gynllunio', doedd y Bil Cynllunio a gyhoeddwyd fis Hydref ddim yn adlewyrchu cyngor y Comisiynydd. 

Ychwanegodd Jamie Bevan: "Er gwaethaf yr holl gyngor, mae Carwyn Jones wedi dewis peidio â rhoi lle canolog i'r Gymraeg yn y ddeddfwriaeth. Mae angen i'r Bil adlewyrchu anghenion unigryw Cymru er mwyn gwella'r amgylchedd, er mwyn cryfhau'r Gymraeg, ac er mwyn taclo lefelau tlodi. Ofer yw dynwared system sy'n bodoli yn Lloegr, gallai e fod yr hoelen olaf yn arch ein cymunedau Cymraeg fel arall."