Ble mae'r Strategaeth?

Wedi i'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, gyhoeddi prosiectau fydd yn gwneud cais am gyllid o’r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg mae Cymdeithas yr Iaith  wedi gofyn "ble mae'r strategaeth?"

Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd grŵp ddysg Cymdeithas yr Iaith:

"Mae pob un o'r cynlluniau yma yn werthfawr - wrth gwrs eu bod nhw - ond mae cynlluniau o'r math yma yn golygu bod ysgolion yn gorfod treulio'u hamser yn ceisio cyfiawnhau gwario arian ar addysg Gymraeg trwy geisiadau grant. Er gwaetha'r bwriadau da, os ydy Llywodraeth Cymru o ddifri am sicrhau bod pob un yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg, nid cynlluniau o'r math yma sydd eu hangen ond strategaeth hir-dymor."

"Rydyn ni wedi rhannu strategaeth gyda'r gweinidog ar sut i ddatblygu gallu ieithyddol y gweithlu addysg gyda buddsoddiad o £5 miliwn y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf. Byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio ar raglenni hyfforddiant mewn swydd cynhwysfawr fyddai'n cynnwys cymorthyddion dosbarth, staff ategol a phenaethiaid yn ogystal ag athrawon; a chynlluniau i gefnogi rhieni a disgyblion o gefndir cymysg neu ddi-gymraeg.

"Mae bron i ddeng mlynedd ers cyhoeddi adroddiad oedd yn argymell dileu dysgu Cymraeg ail iaith a chreu un continwwm Cymraeg ar frys ond eto mae 80% o blant Cymru yn gadael yr ysgol yn methu defnyddio'r Gymraeg o hyd. Byddai'r strategaeth rydyn ni'n ei chynnig yn gallu newid hynny a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei amddifadu o'r Gymraeg."