Ddydd Llun, Rhagfyr 1af, bydd ymgyrchwyr iaith yn dechrau boicot cenedlaethol o siopau Morrisons. Daw'r newyddion wedi i drafodaethau rhwng yr archfarchnad a Chymdeithas yr Iaith amlygu'r ffaith nad yw rheolwyr Morrisons yn cynnig arweiniad na pholisi i Gymru sy'n adlewyrchu statws swyddogol y Gymraeg. Fis Ionawr eleni, bu cynnwrf wedi i staff Morrisons wrthod presgripsiwn oherwydd defnydd o'r Gymraeg arno - ac ysgrifennodd Cymdeithas yr Iaith at y cwmni gan fynnu cyfarfod i drafod newidiadau fyddai'n sicrhau tegwch i’r Gymraeg a chwsmeriaid y cwmni yng Nghymru.
Dywedodd Manon Elin, llefarydd Hawliau Cymdeithas yr Iaith:
"Rydym yn parhau i drafod gyda Morrisons, ond yn anffodus, hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o drafodaethau, does dal dim polisi iaith cenedlaethol ganddynt. Maent wedi dweud eu bod am “gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg” - sy'n galonogol - ond nid ydym yn cytuno mai cyfrifoldeb staff siopau unigol yw penderfynu faint o ddeunyddiau hyrwyddo a chyhoeddiadau Cymraeg sy’n briodol yn y siop. Mae angen i'w prif swyddogion ddangos arweiniad clir.
"Er enghraifft, mae arwyddion uniaith Saesneg wedi cymryd lle rhai dwyieithog wrth iddynt ail-frandio eu siopau yng Nghymru. Nid oes cyfiawnhad dros hyn. Credwn fod dyletswydd ar Morrisons, fel cwmni sy'n gwneud elw yng Nghymru, i barchu'r Gymraeg. Wrth barhau â’r boicot, rydym yn grediniol bod modd ennill y frwydr bwysig hon, yn arbennig yn ystod cyfnod prysuraf y cwmni yn arwain at y Nadolig. "
Ym mis Awst eleni, cyhoeddodd y mudiad iaith eu galwadau i Morrisons, sef sicrhau bod pob arwydd yng Nghymru yn ddwyieithog; Polisi Cyflogaeth ac Ymgyrch Recriwtio fydd yn sicrhau digon o staff sy'n medru ymdrin â chwsmeriaid yn y Gymraeg ym mhob siop yng Nghymru; labeli dwyieithog clir ar holl gynnyrch brand Morrisons; deunydd hyrwyddo a marchnata dwyieithog; a chyhoeddiadau uchelseinyddion dwyieithog yn holl siopau Cymru.
Ychwanegodd Jamie Bevan, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae 'na wastad dadl na ddylen ni brotestio yn erbyn cwmni penodol - y broblem gyda'r ddadl honno yw nad yw'n arwain at newid. Mae targedu Morrisons yn gyfiawn nid yn unig o ran diffygion y cwmni ei hun, ond fel enghraifft o'r anghyfiawnder cyffredinol - sef y diffyg parch a sylw mae siopau o'r fath yn dangos i'r iaith. Mae gan ein gwleidyddion yn y Cynulliad rym i ddatrys y diffygion hyn, a galwn arnyn nhw i ychwanegu archfarchnadoedd a siopau'r stryd fawr i'r rhestr o gwmnïau sy'n dod o dan ddeddwriaeth iaith, fel bod hawliau pobl yn cael eu parchu a'r iaith yn cael ei hyrwyddo o fewn rhagor o agweddau ar fywyd.
"Rydym yn galw felly ar garedigion y Gymraeg i ymuno yn y boicot cenedlaethol hwn nes bod Morrisons yn cymryd ein hiaith o ddifri. Dyma gyfle euraidd i ni wneud dipyn mwy o'n siopa mewn busnesau lleol. Rhaid i Morrisons fabwysiadu polisi cenedlaethol, sy'n adlewyrchu statws y Gymraeg, ac yn gosod safonau cyson drwy eu holl siopau yng Nghymru. Allwn ni ddim parhau i dderbyn addewidion dros gyfnod o fisoedd a blynyddoedd ac unwaith eto cael cynnig briwsion. Nid bygythiad mo hwn, ond gwrthod cydymffurfio â threfn anghyfiawn. "