Bydd cyfle i weld pump o fandiau ifanc mwyaf addawol Cymru ar nos Fawrth yr Eisteddfod pan fydd ffeinal Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn cael ei chynnal yng nghlwb nos Amser ym Mangor. Gwefan Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith
Dros yr wythnosau diwethaf cynhaliwyd pum rhagbrawf mewn gwahanol ardaloedd o Gymru i dorri’r 27 band roddodd eu henwau ymlaen ar gyfer y gystadleuaeth i lawr i’r pum terfynnol. Y rhai a ddaeth i’r brig ac a fydd yn cystadlu am y teitl o fand mwyaf addawol 2005 ynghyd a pecyn o wobrau sy’n cynnwys gig ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod, sesiwn recordio gyda C2 a chyfle i ryddhau CD ar label Rasal yw:NEB (Yr Wyddgrug)Jen Jeniro (Llanrwst)Y Derwyddon (Caernarfon)Tangwystl (Caerfyrddin)Y Strêts (Bangor)Meddai Ffion Mai, aelod o Bwyllgor Adloniaint Cymdeithas yr Iaith a threfnydd y gystadleuaeth:
Mae’r gystadleuaeth eleni wedi bod yn un gyffrous dros ben, gyda mwy o fandiau yn cystadlu nag erioed o’r blaen sydd yn newyddion gwych i ddyfodol y Sin Roc Gymraeg. Gyda cymaint o dalent allan yna, mae’n bechod bron fod rhaid dewis rhwng y bandiau, ond mewn cystadleuaeth mor gryf ma’r pump sydd wedi dod i’r brig yn fandiau o safon a photensial uchel iawn – heb os bydd y ffeinal nos Fawrth yn noson i’w chofio.
Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn am 8:00y.h. yng nglwb nos Amser ac yn cael ei dilyn gan gig gyda Drumbago ac Ummh. Y beirniaid fydd Huw Stephens (Radio Cymru) ac Aled Ifan (Rasal). Bydd cyfle arall i weld y band buddugol yn Amser ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod pan fyddant yn cael y fraint o gefnogi Meic Stephens, Alun Tan Lan a Gilespi.