Bwrdd Cyfarwyddwyr S4C yn cynnal cyfarfodydd yn Saesneg

bawd_deddf_eiddo.jpgDanfownyd y llythr canlynol at Iona Jones, Prif Weithredydd S4C heddiw:Annwyl Iona Jones,Hoffwn fynegi fy nicter gyda S4C ar ôl deall fod Bwrdd Cyfarwyddwyr S4C yn cynnal ei gyfarfodydd drwy gyfrwng y Saesneg.Ni allaf yn fy myw ddeall sut y bu i'r sefyllfa hon godi. Bu brwydr hir a chwerw i sicrhau sianel teledu Cymraeg yng Nghymru. Mae darganfod fod gweinyddiaeth fewnol awdurdod S4C (oleiaf yn rhannol) yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg yn ergyd drom i’r rhai ohonom fu ynghlwm wrth y frwydr honno. Tybed â oes mwy na hyn o weinyddiaeth fewnol awdurdod S4C yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg? Byddai'n dda cael gwybod beth yw'r sefyllfa, a pham fod S4C yn teimlo’r angen i wneud unrhyw weinyddu o gwbl drwy gyfrwng y Saesneg.

Yr ydym ni fel Cymdeithas mewn trafodaethau mynych y dyddiau hyn gyda nifer o awdurdodau lleol, er mwyn ceisio cael ganddynt ymrwymiad i ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd a chynnal eu gweinyddiaeth mewnol un ai yn rannol neu'n gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.Mae'n siom aruthrol i ni bod S4C, fel y pwysicaf o'r sefydliadau Cymraeg eu hiaith, yn cynnal ei gyfarfodydd drwy gyfrwng y Saesneg. Mae hyn yn gwneud y gwaith o geisio Cymreigio bywyd cyhoeddus Cymru – rhywbeth fyddai o fudd uniongyrchol i S4C – yn anos fyth.Mawr obeithiaf y bydd y polisi anffodus hwn yn newid ac edrychaf ymlaen at gael cadarnhad buan gennych y bydd hynny yn digwydd.Yn gywir,Dafydd Morgan LewisCymdeithas yr Iaith Gymraeg