Bygythiad HSBC i gau cyfrif banc Cymdeithas

Mae banc yr HSBC wedi bygwth cau cyfrifon banc Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi'r mudiad mynnu derbyn ffurflen Gymraeg. 

Ers y llynedd, mae HSBC wedi bod yn gohebu â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn uniaith Saesneg gan ofyn am fanylion ariannol y mudiad. Mewn dau lythyr ffurfiol i HSBC ym mis Rhagfyr y llynedd ac mewn sawl galwad ffôn, mae'r mudiad wedi datgan yn glir wrth HSBC y na fyddant yn darparu'r manylion angenrheidiol nes i'r banc anfon ffurflen Gymraeg atynt. Ond mae HSBC, banc a wnaeth £3.9 biliwn mewn elw y llynedd, wedi datgan nad ydynt yn fodlon darparu ffurflen Gymraeg. 

Mewn llythyr i'r grŵp pwyso iaith y mis hwn, mae HSBC wedi dweud y bydd cyfrif banc y mudiad yn cau ym mis Mai. Mewn ymateb i'r llythyr, sydd hefyd wedi mynd at Brif Weinidog, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg, meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Rydym yn dychwelyd eich llythyr uniaith Saesneg – mae'ch methiant i barchu ein dewis iaith, a'ch bygythiad i gau ein cyfrif dim ond oherwydd ein bod wedi mynnu ffurflenni Gymraeg yn gwbl warthus... Mae'r driniaeth ohonom, dim ond oherwydd ein bod yn mynnu cael ffurflen yn Gymraeg, yn sarhad i'r Gymraeg. Ers y 1950au mae siaradwyr a chefnogwyr y Gymraeg wedi bod yn bod yn brwydro i gael yr hawl sylfaenol i dderbyn ffurflenni a gohebiaeth Gymraeg gan gyrff. Mae'n dangos bod rhaid i'r Llywodraeth ymestyn deddfwriaeth iaith i'r sector bancio cyn gynted â phosibl. Dim ond drwy hawliau iaith statudol y bydd modd atal y fath driniaeth amharchus rhag ddigwydd eto. "