Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith i siarad mewn digwyddiad yn cefnogi pleidlais IE

Bydd Robin Crag Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn un o'r siaradwyr yn y digwyddiad "Cymru'n Cefnogi IE" am 2pm tu allan i'r Senedd ym mae Caerdydd dydd Sadwrn (Medi 13eg).

Dywedodd Robin:

"Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod o blaid rhyddid i genhedloedd bychain, gan gynnwys Cymru, ers degawdau. Ein lle ni yw brwydro dros ddyfodol gwell i’r Gymraeg a’i chymunedau - ond ni ellir gwneud hynny mewn gwactod - mae'n rhan o frwydr ryngwladol dros hawliau a chyfiawnder. Yn ogystal ag annibyniaeth gyfansoddiadol, rwy'n credu mewn gwir annibyniaeth."
 
"Byddai gwir annibyniaeth yn gyfle i dorri'n rhydd o'r drefn gyfalafol, a gweithio yn lle hynny er lles diwylliannau ac ieithoedd llai, er lles yr amgylchedd, i ddileu tlodi ac anghyfartaledd, a chefnogi heddwch yn lle'r diwydiant arfau. Mae gan yr Alban gyfle euraid i arwain, rwy'n gobeithio y bydd yn goleuo'r llwybr i ni yng Nghymru: llwybr i adfywiad ieithyddol, economaidd a chyfansoddiadol."

Am fwy o wybodaeth:
Blog: walesyes.blogspot.co.uk
Ebost: walesyes@gmail.com
Digwyddiad Facebook: facebook.com/events/1490201901225604
Tudalen Facebook: facebook.com/GoForItScotland
Twitter: twitter.com/walesyes