Mae mudiad iaith wedi collfarnu'r Arolygiaeth Gynllunio, wedi iddynt wrthod penodi Arolygydd sy'n siarad Cymraeg i ymdrin â chais dadleuol i adeiladu cannoedd o dai ym Mangor.
Gwrthodwyd y cais i adeiladu 366 o dai yn ardal Pen-y-ffridd y ddinas gan bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn rhannol oherwydd ei effaith debygol ar yr iaith. Ond mae'r datblygwyr wedi apelio, ac mae'r apêl yn cael ei hail-ystyried yn sgil pasio Cynllun Datblygu Lleol newydd yn y sir.
Mewn llythyr at yr ymgyrchydd iaith blaenllaw Ieuan Wyn, meddai'r Arolygiaeth Gynllunio: "... nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio’n cytuno â’ch cais i benodi Arolygydd Cymraeg eu hiaith gan yr ystyrir nad oes angen un er mwyn gallu rhoi’r ystyriaeth ddyladwy i’r Gymraeg."
Dywed Cymdeithas yr Iaith y bydden nhw'n cwyno'n swyddogol ynglŷn ag agwedd yr Arolygiaeth Lloegr a Chymru wrth Weinidog y Gymraeg a Chomisiynydd y Gymraeg, gan fod yr Arolygiaeth yn gwrthod cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg.
Meddai Menna Machreth ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'r ymateb gan yr Arolygiaeth yn destun pryder. Mae sicrhau bod arolygydd sy'n medru'r Gymraeg yn ystyried yr achos yn angenrheidiol am sawl rheswm. Mae angen iddynt barchu sefyllfa'r Gymraeg yn lleol a pholisi iaith Cyngor Gwynedd o weithredu'n fewnol yn y Gymraeg. Does dim amheuaeth bod angen rhywun sy'n medru'r Gymraeg i arolygu er mwyn deall y dystiolaeth yn iawn ac effaith adeiladu'r holl dai hyn ar y Gymraeg.
"Dyw e ddim yn helpu o gwbl bod y corff hwn yn gorff Cymru a Lloegr, a hynny er bod polisïau cynllunio wedi eu datganoli i Gymru ers nifer o flynyddoedd. Mae angen sefydlu Arolygiaeth Gynllunio ar wahân i Gymru, wedyn bydd mwy o obaith cael tegwch i'r Gymraeg a'n cymunedau'n fwy cyffredinol. "