Caiff canllawiau iaith i gynghorau cymuned eu newid yn dilyn penderfyniad dadleuol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am bolisi cyngor cymuned yn Sir Ddinbych, mae'r Prif Weinidog wedi dweud wrth ymgyrchwyr iaith.
Ym mis Tachwedd y llynedd, dyfarnodd yr Ombwdsmon yn erbyn cyngor cymuned Cynwyd am iddynt gyhoeddi dogfennau yn Gymraeg yn unig gan ddweud bod yr arfer yn groes i ganllawiau'r Llywodraeth. Gwrthwynebodd ymgyrchwyr y penderfyniad gan ddadlau y byddai'n golygu bod cynghorau cymuned yn llai tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg fel prif iaith eu gwaith.
Ym mis Ionawr eleni, cyfarfu aelodau'r Gymdeithas gyda'r Ombwdsmon i drafod y sefyllfa gan ddadlau bod ei benderfyniad yn wallus, gan nad oedd yn cyd-fynd ag egwyddorion Mesur y Gymraeg 2011. Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, cadarnhaodd yr Ombwdsmon nad oedd wedi derbyn unrhyw gyngor cyfreithiol allanol am y ddeddfwriaeth iaith a basiwyd yn 2011 nac ychwaith am achos Cynwyd.
Mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yr wythnos hon, ymddengys bod y Prif Weinidog Carwyn Jones yn derbyn dadl yr ymgyrchwyr:
"Rwy’n ddiolchgar am eich sylwadau adeiladol ynglŷn â chanllawiau Llywodraeth Cymru "Canllaw y Cynghorydd Da 2012: Ar gyfer Cynghorwyr Cymuned a Thref'. Mae’r canllaw hwnnw yn cynnwys rhai negeseuon cadarnhaol am y Gymraeg ... Er hynny, rwyf yn cytuno bod yna le i ddiweddaru’r canllaw i adlewyrchu egwyddorion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bwriad y Llywodraeth yw diweddaru’r canllaw erbyn etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017. Byddwn yn diweddaru’r cynnwys ynglŷn â’r Gymraeg yn y fersiwn hwnnw."
Wrth ymateb i'r newyddion, meddai Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
"Rydyn ni'n croesawu'n fawr geiriau'r Prif Weinidog. Dyma'r hoelen olaf yn arch dadl yr Ombwdsmon ar y mater hwn. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud fod angen diweddaru’rcanllawiau y seiliodd yr Ombwdsmon ei ddadl arnynt, felly nid oes canllaw cyfredol yn cyfiawnhau ei benderfyniad. Rydyn ni'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn ein dadl ac wedi cytuno i ddiweddaru ei chanllawiau.Rydyn ni nawr yn galw ar yr Ombwdsmon i ymrwymo i wneud yr un peth:mae angen iddo dynnu ei adroddiad yn ôl, ac i gydnabod fod ei gamddehongliad o’r gyfraith wedi arwain at benderfyniad gwallus."
Wrth sôn am beryglon penderfyniad yr Ombwdsmon, ychwanegodd Manon Elin:
"Rydyn ni'n pryderu'n fawr fod adroddiad yr Ombwdsmon yn bygwth arfer nifer bach iawn o gynghorau Cymuned sy'n defnyddio'r Gymraeg fel unig iaith fusnes mewnol ac allanol y sefydliad drwy eu gorfodi i gyfieithu deunydd i'r Saesneg.
"Os yw'r Gymraeg i ffynnu yn ein cymunedau mae angen i ragor - nid llai - o gynghorau weithio'n Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn cytuno bod angen i ragor o gyrff ddilyn yr arfer gorau hwnnw er mwyn cynyddu defnydd yr iaith. Wedi'r cwbl, os nad oes rhagor o gyd-destunau lle mai'r Gymraeg yw'r unig iaith gwaith, mae'n codi cwestiynau difrifol a oes unrhyw obaith o'i hadfer yn y tymor hir."