Mynychodd gannoedd o bobl rali a gorymdaith Nid yw Cymru ar Werth ym Machynlleth heddiw (dydd Sadwrn, 14 Medi), yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Deddf Eiddo er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai a sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg.
Byddai Deddf Eiddo’n sefydlu hawl gyfreithiol pobl Cymru i gartref, sicrhau bod tai yn cael eu trin fel angen cymunedol yn hytrach nag asedau ariannol, a hwyluso perchnogaeth leol a mentrau cymunedol o eiddo.
Digwyddodd y rali ddeuddydd cyn Diwrnod Owain Glyndŵr, sy’n nodi 624 mlynedd ers ei goroni yn dywysog Cymru annibynnol. Ym Machynlleth cynhaliodd Owain Glyndŵr ei Senedd.
Yn annerch y dorf, dywedodd Delyth Jewell, Aelod o’r Senedd a dirprwy arweinydd Plaid Cymru:
“Yma ym Machynlleth roedd safle ein senedd-dy cyntaf, pair pob prawf, cysegr-le ein hanian. Croesffordd lle mae’n hanes a’n presennol yn cwrdd. Mae olion Glyndŵr ar y strydoedd o hyd – ond brwydr heddiw, nid ddoe, sy’n ein galw ni ynghyd.
“’Nid yw Cymru ar werth’: dyna’n geiriau, a galwad ydy’r geiriau. I uno, i herio, i ddyfalbarhau: galwad sy’n dangos na fyddwn yn ildio.
“Heb ymyrraeth, bydd angau ar ein bro. Heb ymyrraeth, bydd terfyn ar y llinyn hwnnw sy’n cysylltu pob un ohonom gyda’r rhai aeth o’n blaenau. Y Gymraeg sydd wedi’n cynnal ers canrifoedd. Yr iaith sydd yma’n fyw hyd heddiw.
“‘Nid yw Cymru ar werth” ydy’n cri. A bloeddiwn y geiriau hynny nes atseinir pob sillaf yn ein Senedd. Fe frwydrwn, fe ddyfalbarhawn, fe hawliwn newid”
Dywedodd Dafydd Morgan Lewis o Gymdeithas yr Iaith:
“Yr ydym yn wynebu argyfwng. Mae ein pobl ifanc yn cael eu halltudio o’u cymunedau ac yn methu cael cartrefi i fyw ynddynt.
“Roedd yna addewid am Bapur Gwyn gan y llywodraeth dros yr haf. Ond rydyn ni yn dal i aros amdano. Yr oedi tragwyddol yna unwaith eto! Os daw cyn diwedd y flwyddyn, gobeithio y bydd yn un radical. Un fydd yn sicrhau hawl statudol i gartref i bobl yn eu cymuned a hynny am bris sy’n fforddiadwy ac sy’n adlewyrchu’r cyflogau lleol.
“Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond dydi hynny yn bendant ddim yn mynd i ddigwydd os na all pobl ifanc fforddio byw yn eu cymunedau.
“Does gen i ddim amheuaeth y byddai Owain Glyndŵr yn cymeradwyo ac yn ymuno efo ni heddiw yn yr alwad am Ddeddf Eiddo, a ddim llai!
Mewn arolwg barn ddiweddar gan Yougov, gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith, dywedodd 74% eu bod yn credu y dylai’r hawl i dai gael ei sefydlu yng nghyfraith Cymru. Gan hepgor y rheiny atebodd ‘ddim yn gwybod’, roedd 85% yn cefnogi’r egwyddor.