Canolfannau Iaith Gwynedd: Cyfle cynghorwyr i wrthod y toriadau

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i gynghorwyr Gwynedd wrthod toriadau arfaethedig i ganolfannau iaith yn y sir cyn trafodaeth cyngor ar y mater heddiw (dydd Iau, 24ain Ionawr). 

Mae’r canolfannau yn trochi plant sy’n dod o tu allan i'r sir yn y Gymraeg fel eu bod yn medru astudio drwy’r Gymraeg yn yr ysgolion. Mae’r cyngor yn cynnig toriadau i gyllideb y canolfannau o fis Medi 2019.  

Dywed David Williams o Gymdeithas yr Iaith: 

“Mae’r canolfannau hyn yn gwneud cyfraniad hollbwysig i greu siaradwyr Cymraeg hyderus tuag at y nod cenedlaethol o gyrraedd miliwn o siaradwyr, ac yn enghraifft i siroedd eraill. Byddai lleihau darpariaeth yn y canolfannau hanfodol hyn yn annilysu'n ymarferol polisi iaith ysgolion Gwynedd a’r Siarter Ysgolion. Os na ellir roi sgiliau Cymraeg i blant a phobl ifanc sydd wedi symud i'r ardal cyn eu derbyn at yr ysgolion cymunedol, byddai’n gosod baich ychwanegol annheg ac anghynaliadwy ar athrawon.  

“Mae'r canolfannau’n fodel sydd wedi’i chydnabod gan Lywodraeth Cymru fel arfer arbennig ac yn wasanaeth sy’n greiddiol i sicrhau llwyddiant Polisi Iaith y Sir. Nhw yw'r un llwyddiant yng Nghymru sydd wedi bod o ran cynnwys plant mewnfudwyr - gan gadw ysgolion yn Gymraeg a rhoi chwarae teg a mynediad llawn at fywyd y cymunedau i'r mewnfudwyr.”