Mewn ymateb i adroddiad gan y corff arolygu addysg Estyn a oedd yn datgan nad oedd digon o gyfleoedd yn Sir Gaerfyrddin i bobl ifanc fwynhau gweithgareddau hamdden yn Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar y Cyngor Sir i ddal ar y cyfle i fywiogi ein cymunedau pentrefol Cymraeg.
Dywedodd Gwenno Teifi (18) Aelod o Ranbarth Sir Gaerfyrddin Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yr ydym wedi cysylltu gyda'r Cyngor i bwyso arnyn nhw i ddefnyddio adeiladau ysgolion pentrefol i gynnal gweithgareddau ieuenctid Cymraeg, ac i sicrhau caeau chwarae yn y pentrefi. Un rheswm am Seisnigrwydd y gwasanaethau ieuenctid presennol yw eu bod yn cael eu canoli yn y trefi. Rhaid cael gwared ag obsesiwn y Cyngor Sir i ganoli pob dim!"Stori llawn oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd