Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn picedi cyfarfod ysgrifennydd diwylliant llywodraeth San Steffan, Jeremy Hunt, yng Nghasnewydd heddiw, er mwyn dweud wrtho fod rhaid tynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus. Aeth Jamie Bevan, a gafodd ei ryddhau yn y bore, yn syth o'r carchar yng Nghaerloyw i'r biced a mynnodd sgwrs gyda Jeremy Hunt am ddyfodol S4C.Cafodd Jamie Bevan ei ddedfrydu i 7 niwrnod o garchar yn llys ynadon Caerdydd ddydd Mawrth 23ain o Awst a danfonwyd ef i garchar Caerloyw. Roedd Jeremy Hunt yng Nghasnewydd er mwyn trafod datblygiad teledu lleol yn ardal 'South West and Wales'.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'n syfrdanol fod Jeremy Hunt yn mentro dros y ffin i Gymru ond heb gynlluniau i gwrdd â neb yma am S4C. Mae'n amlwg ei fod yn byw mewn bybl oherwydd nid yw'n sylweddoli fod dyfodol S4C yn bwnc llosg mawr yma yng Nghymru a bod cytundeb cryf ar draws Cymru fod angen arian teg ac annibyniaeth ar S4C. Felly, bydd Jamie Bevan yn gadael y carchar yng Nghaerloyw ac yn dod yn syth i'r biced er mwyn gwahodd Jeremy Hunt i gael sgwrs gydag ef am ddyfodol S4C. Mae ei adran ef, DCMS, yn mynd i roi gostyngiad o 94% i'w cyfraniad i S4C, toriad sy'n gwbl annheg o'i gymharu â'r toriadau mae darlledwyr cyhoeddus eraill yn eu derbyn.""Sawl cyfarfod cafodd Jeremy Hunt gyda News Corp am gymryd drosodd BSkyB? Sawl cyfarfod mae wedi cael am S4C? Gwrthododd gwrdd â ni, 24 mudiad yng Nghymru, Undebau Llafur hyd yma. Rhanbarth yw Cymru yn ei olwg ef oherwydd cyfarfod ar gyfer y 'South West and Wales' yw'r cyfarfod hwn. Rhaid i lywodraeth San Steffan ddeffro i lais unedig pobl Cymru."