Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb gyda siomedigaeth i'r newyddion bod dau gyfarwyddwr di-gymraeg wedi eu penodi gan Gartrefi Cymunedol Gwynedd.
Dywedodd Menna Machreth Cadeirydd rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gydlynodd protest ym mis Ionawr yn erbyn israddio polisi iaith y gymdeithas tai:
“Mae canran uchel iawn o denantiaid y gymdeithas dai hon yn siaradwyr Cymraeg - dylai'r Gymraeg fod yn sgil hanfodol mewn swyddi fel hyn. Mae'r penderfyniad yn tanseilio ymdrechion i gryfhau'r iaith nid yn unig yn yr ardal hon ond llefydd eraill yn ein gwlad sy'n edrych i ni am arweiniad. Mae'r Gymraeg yn sgil hanfodol nid yn unig yma yng Ngwynedd ond ar draws Cymru, ac mae hi'n hen bryd i bob un sefydliad, boed hynny'n awdurdod lleol neu yn gymdeithas dai ddechrau sylweddoli hynny, a gweithredu ar hynny.”
“Mae gan Gyngor Gwynedd record hir ac anrhydeddus iawn o weinyddu'n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, rydym yn sicr ein barn fel mudiad, na fyddai hyn byth wedi digwydd o dan yr hen drefn o gael tai cymdeithasol o dan berchnogaeth y Cyngor, yn hytrach na sefydliad allanol. Yn anffodus mae mwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu gwerthu allan i gwmnïau a sefydliadau preifat y dyddiau hyn, sydd yn ein tyb ni yn sicr o ddilyn bod llai o wasanaeth Cymraeg ar gael. Mae'r ateb yn syml felly, rhowch ddigon o adnoddau ariannol i Gyngor Gwynedd fedru cadw gwasanaethau cyhoeddus yn nwylo'r cyhoedd. Mae hyn oll yn tanlinellu ein galwadau bod angen i dai cymdeithasol ddod yn ôl dan berchnogaeth gyhoeddus.”