
Mae aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin wedi nodi heddiw bod cynydd yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Gaerfyrddin, ond fod tipyn eto i wneud i sicrhau dyfodol i'r Gymraeg yn y sir.
Daeth dros 100 o bobl i gyfarfod "Tynged yr Iaith - Sir Gâr" yn Neuadd San Pedr Caerfyrddin union ddwy flynedd ers Rali'r Cyfrif, a naw mis ers i Gyngor Sir Caerfyrddin benderfynu ar Strategaeth Iaith newydd. Yn siarad yn y cyfarfod yr oedd Elinor Jones, Uwch Siryf Dyfed; Cyng. Cefin Campbell (Plaid Cymru); Cyng. Calum Higgins (Llafur) a Sioned Elin Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Amy Jones, Is-Gadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:
"Rydyn ni'n falch bod y cyngor sir wedi diweddaru amserlen gweithredu eu strategaeth iaith, a bod swyddogion a chynrychiolwyr y cyngor wedi dod at ein cyfarfod ni heddiw. Mae'n dangos eu bod yn cymeryd y Gymraeg o ddifrif, ond mae tipyn eto i'w wneud os ydyn ni am weld niferoedd siaradwyr Cymraeg yn tyfu a bod ein cymunedau ni'n cael eu hadfer."
"Mae'n amlwg felly bod gwaith i'w wneud. Er ein bod ni'n rhoi disgwyliadau ar y cyngor, mae rhan gyda ni i gyd i chwarae. Rydyn ni'n falch o allu dweud felly bod gyda ni dros hanner cant o bobl sydd am fod yn 'farcudiaid' ac sydd yn mynd i gadw llygad barcud ar waith y cyngor sir."
"Erbyn diwedd y mis rydyn ni'n anelu at gael haid o gant o farcudiaid ar waith. Y bwriad yw y byddan nhw'n cwrdd yn rheolaidd ac iddyn nhw adrodd nôl mewn chwe mis i adolygu eto. Bryd hynny byddwn ni'n disgwyl diweddariad pellach o Gynllun Gweithredu'r Cyngor Sir."
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi y 'barcudiaid' ar waith yn syth, gan ofyn iddyn nhw gadw golwg ar gofnodion cyfarfodydd, ar gyhoeddiadau'r cyngor, dilyn datblygiadau'r strategaeth iaith, i fynd i gyfarfodydd y cyngor a nodi unrhyw faterion sy'n codi. Bydd cyfarfod adolygu ymhen chwe mis i adolygu eto, fel rhan o waith parhaol y barcudiaid.
Pwyswch yma i gofrestru i fod yn un o Farcudiaid Sir Gâr
Pwyswch yma i weld mwy o luniau o'r digwyddiad
Y stori yn y wasg:
Public meeting held in Carmarthen over Welsh language future - Carmarthen Journal 18/01/15
Cyfarfod Strategaeth Iaith Sir Gâr - BBC Cymru Fyw 17/01/15
Cadw 'llygad barcud' ar Gyngor Sir Gâr - Golwg 360 17/01/15